Bydd tîm merched Cymru yn wynebu Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (26 Hydref) o flaen y dorf uchaf iddyn nhw ei weld erioed.

Dyma fydd y bedwaredd gêm ragbrofol i’r ddau dîm, wrth iddyn nhw obeithio cael lle yng Nghwpan y Byd 2023 yn Seland Newydd ac Awstralia.

Dydy Cymru heb golli gêm yn yr ymgyrch hyd yn hyn, ac maen nhw eisoes wedi curo Estonia oddi cartref ym mis Medi.

Er hynny, byddan nhw’n ymwybodol bod rhaid wynebu Ffrainc – sef y ffefrynnau yng ngrŵp I – a bydd rhaid gwneud hynny gartref ac oddi cartref cyn mis Ebrill 2022.

Roedd gêm gyfartal yn erbyn Slofenia nos Wener diwethaf (22 Hydref) yn ganlyniad addawol, wrth ystyried eu bod nhw lawr i ddeg dynes gyda 20 munud i fynd.

Byddan nhw’n gobeithio ailadrodd safon y perfformiad heno, o flaen torf o dros 5,000 o gefnogwyr.

Torri record

Y record presennol yw 5,053 o gefnogwyr, a gafodd ei gosod yn Rodney Parade ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2018 yn erbyn Lloegr.

Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau ar Twitter y bydd y record yn cael ei dorri heno.

Roedd rheolwraig Cymru, Gemma Grainger, wedi gobeithio y byddai nifer uchel o gefnogwyr yn ymddangos.

“Rydyn ni wedi cyffroi o fod yn agos at dorri’r record ar gyfer y dorf ar gyfer gêm ryngwladol merched Cymru,” meddai Gemma Grainger.

“Mae mwy na 1,000 o’r tocynnau wedi’u prynu gan glybiau ieuenctid i ferched, ac mae’n wych gweld ein tîm cenedlaethol yn ysbrydoli sêr y dyfodol.

“Gobeithio y bydd y Wal Goch yn dod yn eu heidiau nos Fawrth ac y gallwn ni roi’r perfformiad iddyn nhw maen nhw’n ei haeddu.”

Mae tocynnau’n parhau i fod ar gael ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda phrisiau mor rhad â £4.

I’r rheiny sydd methu â gwylio’r gêm yn y stadiwm, bydd darllediad byw ohoni ar BBC Two Wales, gyda’r gic gyntaf am 19:15.

Newyddion tîm

Yn dilyn y garden goch yn y gêm yn erbyn Slofenia, fydd Kayleigh Green – prif sgoriwr Cymru yn yr ymgyrch hyd yn hyn – wedi ei gwahardd rhag chwarae heno.

Hefyd yn colli allan fydd yr ymosodwraig Rachel Rowe oherwydd anaf i linyn y gar.

Er gwaethaf yr absenoldebau, bydd gan reolwraig Cymru, Gemma Grainger, ddigon o ymosodwyr i ddewis ohonyn nhw, gan gynnwys Helen Ward, Natasha Harding, a Hannah Cain, sydd heb ennill cap rhyngwladol eto.

Gôl a cherdyn coch i Kayleigh Green yng ngêm ragbrofol Cymru

1-1 yn Slofenia wrth i ferched Cymru geisio cyrraedd Cwpan y Byd