Bydd y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi £30 miliwn o gyllid yn ei Gyllideb ddydd Mercher (27 Hydref) i baratoi ceisiadau’r Deyrnas Unedig i gynnal Cwpan Rygbi’r Byd Merched 2025 a Grand Depart Tour de France 2026.

Cafodd y cyntaf ei lwyfannu ddiwethaf yn Lloegr yn 2010, pan gurodd Seland Newydd Loegr yn y rownd derfynol yn Twickenham, tra cynhaliwyd y Tour de France ddiwethaf yn y wlad hon yn 2014.

Yn ogystal, bydd Rishi Sunak yn addo £11 miliwn arall ar gyfer cais y DU ac Iwerddon ar gyfer Cwpan y Byd pêl-droed dynion 2030, cyhoeddodd y Trysorlys.

Dywedodd Rishi Sunak: “Rwy’n gyffrous am y posibilrwydd o ddod â mwy o ddigwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf i’r DU.

“Dyna pam yr wyf yn cefnogi’r ceisiadau Prydeinig hyn, gyda dros £40m o gyllid i gyflwyno ein hachos.

“Bydd ein cynigion yn cynnwys digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled y wlad, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i wylio eu harwyr chwaraeon.

“Mae gwledydd Prydain ar y blaen ym myd rygbi a beicio, a bydd dod â’r digwyddiadau hyn adref yn caniatáu i filoedd o bobl weld y genhedlaeth nesaf o arwyr chwaraeon Prydain.”

Mae’r Undeb Rygbi yn bwriadu mabwysiadu dull aml-ddinas ac aml-ranbarth yn 2025.

Dywedodd prif weithredwr yr RFU, Bill Sweeney: “Rydym wrth ein bodd bod y Llywodraeth wedi cadarnhau cyllid ar gyfer cais Cwpan Rygbi’r Byd 2025.

“Pe bai ein cais yn llwyddiannus, credwn yn gryf y byddai cynnal y twrnament hwn ledled Lloegr yn drawsnewidiol ar gyfer y gêm merched, gan ddod â miloedd o chwaraewyr, gwirfoddolwyr a gwylwyr i’r gamp.

“Gan gydweithio â’r Llywodraeth, gallwn gyflwyno cais sy’n ysbrydoli ac yn arddangos grym chwaraeon merched ar y llwyfan byd-eang.”

Cynhaliodd Swydd Efrog gymalau un a dau o’r Tour de France saith mlynedd yn ôl, gyda’r digwyddiad wedyn yn symud i Lundain cyn mynd i Ffrainc.

Dywedodd prif weithredwr British Cycling, Brian Facer: “Roedd Grand Depart Tour de France 2014 yn Swydd Efrog yn ddathliad bythgofiadwy o’n camp ac mae’n dal i gael ei drafod hyd heddiw, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o feicwyr.

“Yn bwysicach na hynny, roedd y dyddiau hynny’n arddangos ein gwlad fel un o wledydd beicio gorau’r byd, ac rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi cais Llywodraeth y DU i ddod â digwyddiad sy’n arddangos y gamp yn ôl i’r glannau hyn yn 2026.”