Mae cyn-weinidog y Cabinet Owen Paterson yn wynebu cael ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin am 30 diwrnod ar ôl Gomisiynydd Safonau’r Senedd ddod i’r casgliad ei fod wedi torri rheolau lobio.

Roedd yr ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd Kathryn Stone wedi darganfod ei fod wedi lobio gweinidogion a swyddogion sawl gwaith ar ran dau gwmni oedd yn ei gyflogi fel ymgynghorydd, sef Randox, a Lynn’s Country Foods.

Dywedodd Pwyllgor Safonau’r Senedd bod ei weithredoedd yn torri rheolau lobio Aelodau Seneddol ac mae wedi argymell ei fod yn cael ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin am 30 diwrnod.

Ond mewn datganiad mae Owen Paterson wedi gwrthod casgliadau’r Comisiynydd gan ddweud ei bod wedi penderfynu ar ei hymateb cyn iddi siarad gydag o.

Ychwanegodd bod y modd y cafodd yr ymchwiliad ei gynnal “heb os” wedi chwarae “rhan fawr” ym mhenderfyniad ei wraig, Rose, i ladd ei hun y llynedd am ei bod yn poeni y byddai’n cael ei orfodi i ymddiswyddo fel Aelod Seneddol Gogledd Swydd Amwythig.

Yn ei hadroddiad dywedodd Kathryn Stone bod Owen Paterson wedi cysylltu â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) deirgwaith rhwng mis Tachwedd 2016 a Thachwedd 2017 ar ran Randox.

Daeth i’r casgliad ei fod hefyd wedi cysylltu â gweinidogion yn yr Adran Datblygiad Rhyngwladol bedair gwaith yn ymwneud a’r cwmni rhwng mis Hydref 2016 ac Ionawr 2017.

Yn ogystal roedd wedi cysylltu â’r FSA saith gwaith rhwng Tachwedd 2017 a Gorffennaf 2018 yn ymwneud a Lynn’s Country Foods, yn ôl yr adroddiad.

Mae’r comisiynydd hefyd yn dweud ei fod wedi methu a datgan ei fod yn cael ei dalu fel ymgynghorydd i Lynn’s Country Foods mewn pedwar e-bost at swyddogion Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) a’i fod wedi defnyddio ei swyddfa seneddol i gynnal cyfarfodydd busnes 16 gwaith rhwng Hydref 2016 a Chwefror 2020.

Yn yr adroddiad mae’r pwyllgor yn argymell dwyn cynnig gerbron Aelodau Seneddol a’u bod yn cynnal pleidlais ar y mater o fewn pum diwrnod.

Yn ei dystiolaeth i’r comisiynydd dywedodd Owen Paterson ei fod wedi bod yn ceisio codi pryderon am sylweddau carsinogenig, sydd wedi’u gwahardd, mewn cig moch a llefrith.

Ond roedd y comisiynydd wedi gwrthod ei ddadleuon.