Mae cyn-filwr wedi cael rhybudd ei fod yn wynebu dedfryd o garchar ar ôl pledio’n euog i stelcio cyn-gyflwynydd BBC Breakfast, Louise Minchin.

Roedd disgwyl i Carl Davies, 44, wynebu achos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth (26 Hydref) am stelcio’r cyflwynydd a’i merch Mia – sy’n oedolyn – drwy bostio sylwadau ar eu cyfrifon Instagram oedd wedi codi ofn ac achosi loes.

Mae Carl Davies, o Sir y Fflint,  eisoes wedi ei gael yn euog ac wedi cael dedfryd ohiriedig am stelcio’r gantores Girls Aloud Nicola Roberts.

Dywedodd y Barnwr Nicola Saffman: “Mae hon yn drosedd ailadroddus ac roedd yn cynnwys anfon negeseuon brawychus a difrifol tu hwnt.

“Roedden nhw’n fygythiol iawn ac yn amlwg y bwriad oedd achosi’r mwyaf o ofid posib i’r dioddefwyr yn yr achos hwn.”

Fe wnaeth hi ohirio’r ddedfryd er mwyn i adroddiad seiciatryddol gael ei baratoi ar y cyn-filwr, sy’n honni ei fod yn dioddef o anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD).

Ychwanegodd: “Mae angen i hyn fod yn glir iawn i Mr Davies mai’r canlyniad mwyaf tebygol fydd dedfryd o garchar ar unwaith.”

Clywodd y llys bod y troseddau wedi digwydd rhwng 14 a 17 Gorffennaf y llynedd, yn ystod cyfnod gweithredol ei ddedfryd ohiriedig.

PTSD

Dywedodd Duncan Bould, ar ran diffynydd, bod Carl Davies wedi dechrau dioddef ag anhwylder pryder ôl-drawmatig tra’n gwasanaethu gyda’r lluoedd arfog yn Irac.

Dywedodd fod Carl Davies, a fynychodd y llys gyda’i dad, wedi parhau i weithio yn Irac fel swyddog amddiffyn ar ôl gadael y lluoedd arfog, ac ychydig iawn o driniaeth a gafodd ar gyfer y cyflwr.

Dywedodd Duncan Bould bod y cyn-filwr wedi “defnyddio alcohol yn bennaf fel meddyginiaeth.

“Mae’n ymddangos yn y cyd-destun hwnnw y cafodd y troseddau hyn eu cyflawni.”

Dywedodd Duncan Bould fod Carl Davies yn wreiddiol wedi pledio’n ddieuog i’r ddwy drosedd o stelcian, gan achosi braw neu ofid difrifol, oherwydd ni allai adnabod yr ymddygiad a’i fod bellach yn credu bod yn rhaid ei fod wedi’i wneud pan oedd yn feddw iawn.

Cafodd Carl Davies ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, sy’n cynnwys peidio â chysylltu â Louise Minchin na’i merch, nes iddo gael ei ddedfrydu ar 15 Rhagfyr.