Mae cyfarwyddwr ffilm am fywyd sylfaenydd Mudiad Amddiffyn Cymru a’r ymgyrchydd gwleidyddol Owain Williams yn dweud bod gwobr BAFTA Cymru am y ffilm fer orau yn gydnabyddiaeth o’r ffaith fod “pobol Cymru eisiau gweld eu hanes a chlywed eu lleisiau mewn goleuni gwahanol”.

Daeth The Welshman i’r brig yng nghategori’r Ffilm Fer Orau mewn seremoni ar-lein nos Sul (Hydref 24), a chafodd y cynhyrchydd Enlli Fychan Owain, merch Owain Williams a phartner Lindsay, ei henwebu ar gyfer gwobr Torri Trwodd.

Mae’r ffilm, sy’n gyfuniad o gyfweliadau ac ail-greu digwyddiadau dramatig, yn adrodd hanes Owain Williams, un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru, a gafodd ei garcharu am osod ffrwydron ger argae Tryweryn, lle cafodd pentref Capel Celyn ei foddi i sicrhau cyflenwad dŵr ar gyfer dinas Lerpwl yn 1965.

Ddwy flynedd cyn boddi’r pentref, aeth Owain Williams ac eraill ati i fomio safle adeiladu argae yng Nghwm Tryweryn, ger y Bala, i dynnu sylw at anghyfiawnder y penderfyniad a fyddai’n golygu bod 48 o bobol yn colli eu cartrefi er i bron bob Aelod Seneddol o Gymru wrthwynebu’r cynllun i greu Llyn Celyn.

“Dw i ar ben fy nigon, mewn sioc, a heb ddisgwyl ennill gwobr BAFTA,” meddai Lindsay Walker wrth golwg360.

“Roedd gan y gweddill yn y categori ffilm fer dipyn o gyllideb y tu ôl iddyn nhw neu gefnogaeth dda, lle’r oeddan ninnau’n gwbl annibynnol ac yn ‘underdog’ mewn gwirionedd.

“Dw i ddim cweit wedi amgyffred y peth eto.

“Ddaru fi, fy mhartner a’m merch wylio adre’ a phan gyhoeddon nhw fo, ddaru ni sgrechian fel ’tasen ni wedi ennill Cwpan y Byd neu rywbeth! Ddaru ni glywed yr un pryd â phawb arall.

“Roedd [yr enwebiad i Enlli] yn gyffrous iawn, ond yn siomedig wrth gwrs nad oedd hi wedi ennill.

“Ond mae cael enwebiadau mewn dau gategori’n hollol wych. Mae BAFTA jyst yn wych wrth gefnogi ffilmiau annibynnol.

“Ac mae’n taflu goleuni ar leiafrifoedd hefyd. Yn amlwg, mae’r ddwy ohonon ni’n rhan o’r gymuned LHDT, yn wneuthurwyr ffilmiau ac yn ddwy Gymraes, ac mae’n gydnabyddiaeth enfawr fod BAFTA nid yn unig yn ein cydnabod ni ond yn cydnabod y ffilm hefyd, ac mae hynny wir yn gwireddu breuddwyd.”

 

Yr ymateb i’r ffilm ar lawr gwlad

Er gwaethaf heriau Covid-19, mae’r ffilm wedi cael ei dangos mewn sinemâu yn y gogledd, y de a’r canolbarth eleni.

“Dw i’n teimlo’n lwcus iawn ein bod ni wedi medru’i gweld hi mewn cynifer o leoliadau ledled Cymru oherwydd roedd yr ymateb yn wahanol ym mhob tref,” meddai Lindsay.

“Mewn rhai llefydd, mi fydden nhw’n chwerthin efo’i gilydd ac mewn llefydd eraill, roeddech chi’n medru clywed pin yn cwympo ar adegau. Roedd o’n wahanol ym mhob lle.

“Ond gawson ni bobol yn dod aton ni ar ôl y ffilm ac yn rhannu ei bod hi wedi tanio’u hangerdd neu wedi’u gwneud nhw’n emosiynol.

“O ran y stori, mae yna eiliadau doniol ynddi ac mae hi’n cael ei hadrodd, am wn i, mewn ffordd ysgafn o ystyried y fath bwnc difrifol ydi o a dw i’n meddwl fod y rhan fwyaf o bobol wedi hoffi hynny.

“Mi fydden nhw’n dod i fyny ar y diwedd efo gwên fawr ar eu hwynebau.”

Heriau, ond cyfleoedd, Covid

Mae Lindsay Walker yn dweud bod creu’r ffilm yn ystod Covid wedi cynnig heriau ond cyfleoedd hefyd.

“Os rhywbeth, ddaru’r cyfnod Covid roi’r amser i mi wirioneddol eistedd efo’r ffilm a’i thrin hi efo’r amser a’r ymdrech roedd eu hangen oherwydd fod gen i waith o ddydd i ddydd hefyd yn y byd teledu a golygu,” meddai.

The Welshman oedd fy ffilm go iawn gyntaf ar fy liwt fy hun, a Covid sy’n gyfrifol am y ffaith fy mod i’n ffodus o gael blwyddyn yn eistedd adref yn gadael i The Welshman dreiddio drwof fi.

“Oedd, mi oedd yna broblemau, efo ceisio cael mynediad i lefydd a chael cymorth efo’r ffilm, ond fy arwyddair ar gyfer y ffilm oedd mai’r broblem ydi’r datrysiad a ddaru hynny fy nghario i drwy’r broses olygu.

“Fedrwch chi weld yn y ffilm nad oedd gennon ni fawr o fynediad at bobol na llefydd, dydi hi ddim wedi cael ei gorgynhyrchu, mae Owain Williams jyst yn eistedd mewn ystafell, dau gamera arno fo ac mae yna siots ail-greu drwyddi ond maen nhw’n syml iawn, heb eu gor-saethu na’u gorwneud ac mae hi’n gynnil iawn.”

Troi ffilm fer yn ffilm nodwedd

Mae hanes Tryweryn yn gyfarwydd i genedlaethau o Gymry erbyn hyn, a ‘Cofiwch Dryweryn’ yn slogan poblogaidd ar sawl mur, ond roedd Lindsay Walker yn awyddus i adrodd yr hanes o bersbectif un o’r bomwyr.

Ac mae hi’n dweud ei bod hi wrthi’n troi’r ffilm fer yn ffilm nodwedd a fydd yn ymhelaethu ar stori Owain Williams.

“O ran yr ymateb i The Welshman, mae o wedi gafael mewn pobol ac maen nhw i’w weld wrth eu boddau efo fo, a dw i’n meddwl fysa ffilm nodwedd yn wych er mwyn adrodd stori Owain. Bydd y wobr gan BAFTA ar ei phen ei hun, gobeithio, yn sbardun i hynny hefyd.

“Mae o jyst yn gydnabyddiaeth ein bod ni’n medru adrodd y fath stori fawr ac fel dwy yn y ddiwydiant, mae’n gydnabyddiaeth enfawr o’r gwaith rydan ni wedi’i wneud yn barod.”

Ond sut mae mynd ati i droi ffilm fer yn ffilm nodwedd, felly?

“Y cam cyntaf, am wn i, ydi ceisio mesur yr ymateb i’r ddogfen. A oes gan bobol ddiddordeb ynddi? Ydi pobol eisiau gweld mwy?

“Mae hynny wedi bod yn bositif, a’r ateb ydi ‘ydi’, mae pobol eisiau mwy.

“Ar hyn o bryd, mae pobol yng Nghymru eisiau gweld eu hanes neu glywed eu lleisiau mewn goleuni gwahanol, mewn goleuni mwy sinematig efallai, felly roedd hynny’n golygu tic mawr oddi ar y rhestr.

“O ran y cam nesaf, dw i wedi cychwyn ysgrifennu gam wrth gam eto, a’r cam nesaf fydd siarad efo Owain eto, efallai am bethau ddaru ni eu hepgor o’r ddogfen, ambell fanylyn neu stori a fyddai’n benthyg ei hun yn well i’r ffilm nodwedd.

“Dw i’n meddwl fy mod i ar dudalen 11 y ffilm nodwedd a’r cam yma ydi ei ailsgwennu fo o’r cychwyn a siarad amdano foe o, oherwydd gobeithio fydd o’n ennyn mwy o ddiddordeb neu bydd pobol yn dod aton ni ac yn dweud “Mae gen i hen luniau” neu “Dw i’n nabod y person yma”.

“Mae Cymru’n wych yn hynny o beth, am gynnig ffafr a chadw cysylltiadau’n fyw.”

Pryd gallwn ni ddisgwyl gweld y ffilm nodwedd, felly?

“Fy nod oedd cael drafft cynta’n barod erbyn dechrau’r flwyddyn newydd, ond rydan ni wedi bod mor brysur efo The Welshman, felly fedra i ddim cwyno.

“Ond yn gynnar y flwyddyn nesaf, gobeithio, mis Mawrth efallai, bydd y drafft cynta’n barod a fedra i ddechrau gwneud cais am arian fel y byddwn ni, erbyn yr adeg yma’r flwyddyn nesaf, yn barod ar gyfer castio a bydd y cyfnod cyn-cynhyrchu wedi’i orffen.

“Felly gobeithio o fewn deuddeg mis, fe fyddwn ni wedi cychwyn cynhyrchu’r ffilm.”