Mae 12 albwm wedi eu henwi ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Mae’r wobr flynyddol yn dathlu cerddoriaeth o bob genre sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghymru neu gan artistiaid Cymreig ledled y byd,

Ymhlith yr albymau cyfrwng Cymraeg sydd ar y rhestr fer eleni mae Bywyd Llonydd gan Pys Melyn, Mas gan Carwyn Ellis a Rio 18, a Cwm Gwagle gan Datblygu, sy’n ymddangos wedi marwolaeth eu prif leisydd, David R Edwards, yn gynharach eleni.

Hefyd wedi eu henwebu mae’r cyn-enillydd Gruff Rhys, Afro Cluster, The Anchoress, El Goodo, Gwenifer Raymond, Kelly Lee Owens, Mace the Great, Novo Amor, a Private World.

Mae’r albymau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wedi cael eu torri i lawr o 129 albwm, gyda dros 100 o reithwyr yn dewis eu ffefrynnau, ac y mis nesaf, bydd panel o feirniaid o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis enillydd.

Yn dilyn seremoni ddigidol y llynedd, lle bu’r albwm Care City gan Deyah yn fuddugol, bydd y wobr eleni’n cael ei chyflwyno wyneb yn wyneb ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 lacio.

Y rhestr fer

  • The Reach gan Afro Cluster
  • The Art of Losing gan The Anchoress
  • Mas gan Carwyn Ellis a Rio 18
  • Cwm Gwagle gan Datblygu
  • Zombie gan El Goodo
  • Seeking New Gods gan Gruff Rhys
  • Strange Lights Over Garth Mountain gan Gwenifer Raymond
  • Inner Song gan Kelly Lee Owens
  • My Side Of The Bridge gan Mace The Great
  • Cannot be, Whatsoever gan Novo Amor
  • Aleph gan Private World
  • Bywyd Llonydd gan Pys Melyn

‘Cael ein sbwylio’

Roedd y cyflwynydd radio a’r DJ Huw Stephens yn un o gyd-sylfaenwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011.

“Bob blwyddyn rydym yn cael ein sbwylio gan y dalent gerddoriaeth ragorol yng Nghymru,” meddai.

“Mae’n wych gweld yr amrywiaeth eang o dalent sydd gennym ar y rhestr fer; mae’n rhestr fer gref o albyms.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i’r diwydiant cerddoriaeth gyda digwyddiadau’n cael eu canslo a’u gohirio, felly ni fu erioed amser gwell i gefnogi artistiaid o Gymru.

“Bydd ein beirniaid yn penderfynu ar albwm buddugol, ond gobeithio y bydd pobl yn gwrando ar yr holl deilyngwyr; mae’r ansawdd yn eithriadol o uchel.”