Mae Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi eu cartŵn cyntaf erioed, sy’n cyflwyno’r Gymraeg yn y cartref i blant ifanc a’u rhieni.
Mae’r cartŵn, Dewin a Doti a’r Geiriau Hud, yn cael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Animeiddio heddiw (dydd Iau, Hydref 28).
Fe gafodd y stori, sy’n dilyn y prif gymeriadau adnabyddus Dewin a Doti, ei hysgrifennu gan y bardd Anni Llŷn, ac mae hi a’i gŵr, y cyflwynydd Tudur Phillips, yn trosleisio ar y cartŵn hefyd.
Cwmni Cloth Cat o Gaerdydd, sy’n animeiddio rhai o raglenni Cyw, oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r cartŵn.
Bydd y cartŵn ar gael ar blatfformau digidol Mudiad Meithrin yn ogystal ag ar blatfform AM, ac mae fersiwn gydag is-deitlau Saesneg ar gael ar gyfer rhieni a phlant nad ydyn nhw’n rhugl yn y Gymraeg.
‘Wrth ein boddau’
Iola Jones, pennaeth tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin, oedd rheolwr y prosiect.
“Roedd hi’n bleser cydweithio gyda’r awdur a’r sgriptwraig dalentog Anni Llŷn a gyda chriw o staff amryddawn Cloth Cat Animation o Gaerdydd,” meddai.
“Ry’n ni wrth ein boddau gyda’r cartŵn hyfryd yma sy’n sôn am Dewin a Doti yn ymweld â Chylch Meithrin Cwm Bychan Bach i chwilio am ‘eiriau hud’ – sef y tanwydd sydd ei angen arnynt i yrru’r Balalŵn fel eu bod yn gallu teithio yn yr awyr i ymweld â Chylchoedd Meithrin ar hyd a lled Cymru.”
Sefydliad gwrth-hiliol
Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth Mudiad Meithrin ddatgelu cymeriad du, o’r enw Guto, i ymddangos gyda Dewin a Doti.
Mae hyn yn un o sawl gweithred maen nhw’n eu gwneud fel rhan o’u hymgyrch i fod yn sefydliad gwrth-hiliol ac i gydnabod Mis Hanes Du.
Maen nhw wedi ymrwymo i greu adnoddau cwricwlaidd newydd, yn sgil y newyddion y bydd hanesion pobol ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynnwys yng nghwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru.
Drwy wneud hyn, maen nhw’n gobeithio adlewyrchu un o egwyddorion yr ymgyrch genedlaethol Dim Hiliaeth Cymru i “gynnal a hybu cymuned lle caiff pawb ei drin yn deg ac yn gydradd beth bynnag eu hil, a chadarnhau ein hymrwymiad i bolisi o gyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth”.