Roedd cyfanswm o 713 o farwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 15 Hydref wedi nodi Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae hyn yn gynnydd o 7% o’i gymharu a’r wythnos flaenorol.
Roedd tua un o bob 16 (6.4%) o’r holl farwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos hyd at 15 Hydref wedi nodi Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth.
Yng Nghymru, gostyngodd marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 i 71 yn yr wythnos hyd at 15 Hydref o’i gymharu ag 81 yr wythnos gynt.
Ond yn Lloegr cynyddodd nifer y marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 i 640 yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 15 Hydref, o’i gymharu â 582 yn yr wythnos flaenorol.
Nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2021 oedd 12,845.
Roedd hyn 1,660 yn fwy na’r cyfartaledd pum mlynedd.
O’r marwolaethau a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig yn yr un wythnos, roedd 890 yn ymwneud a Covid-19.
Roedd hyn 65 yn fwy na’r wythnos gynt.