Mae Hybu Cig Cymru wedi lansio canllaw ymarferol i ffermwyr defaid ac eidion er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy yn y sectorau.

O dan y teitl Perffeithio’r Ffordd Gymreig, mae’r ddogfen yn cynnwys ystod o gamau a thechnegau i leihau ôl troed carbon.

Gallai’r mesurau hyn dorri allyriadau uniongyrchol o’r sector defaid o hyd at 20%, ac ar ben hynny, byddai rhai mesurau sy’n cael eu trafod yn tynnu carbon deuocsid yn uniongyrchol o’r aer.

Yn ôl ymchwil gan Hybu Cig Cymru yn 2020, mae Cymru eisoes yn un o’r gwledydd mwyaf cynaliadwy yn y byd i gynhyrchu cig coch, ac mae’r canllaw diweddaraf yn gam at gyflawni targed Llywodraeth Cymru o fod yn wlad sero net erbyn 2050.

Cynaliadwyedd

Mae John Richards, Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Chydberthynas Hybu Cig Cymru, yn nodi bod cyflwyno ystod o fesurau gyda’i gilydd yn mynd i arwain at enillion sylweddol o ran cynaliadwyedd.

“Pan wnaethom gomisiynu ymchwil annibynnol y llynedd i asesu lle roeddem yn sefyll o ran ffermio gynaliadwy, ein bwriad o’r cychwyn oedd cymryd hynny gam ymhellach a rhoi arweiniad i’r sectorau defaid ac eidion ar sut i wella hyd yn oed ymhellach,” meddai.

“Trwy’r canllaw ymarferol hwn, gallwn weld bod yna ystod eang o welliannau y gall busnesau fferm eu gwneud, gyda llawer ohonyn nhw’n fentrau sy’n golygu ennill dwy ffordd – yn helpu’r amgylchedd ac yn gwneud ffermydd yn fwy effeithlon a phroffidiol.

“Mae yna eisoes rai mesurau cynaliadwyedd arloesol sy’n arwain y byd yn digwydd ar ffermydd teuluol Cymru.

“Trwy ymestyn yr arfer gorau hwn i’r sector cyfan, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn a helpu’r sector i wneud ei rhan i liniaru newid yn yr hinsawdd.”

Gwelliannau

Mae’r ffermwr cig eidion a defaid Aled Picton Evans yn un sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Datblygu Cig Coch Hybu Cig Cymru a’r prosiect ymchwil GrasscheckGB.

Fe gafodd ei fferm yn Hendy-gwyn yn Sir Gâr ei ddatblygu i fod yn fwy cynaliadwy.

Aled Picton Evans

Mae’n sôn sut gall gwneud gwelliannau i bridd a glaswelltir leihau allyriadau ac atafaelu carbon.

“Ein nod yn y pen draw yw cael cymaint o allbwn o laswellt pori ag y gallwn, er mwyn sicrhau ansawdd y cynhyrchiad wrth leihau costau a lleihau allyriadau,” meddai.

“Mae iechyd pridd yn helpu atafaelu carbon, a phan ystyrir hyn gall allyriadau net fod hanner y cyfartaledd ar gyfer menter cig eidion.”