Mae ymgyrchwyr amgylcheddol sydd wedi dringo adeilad Llywodraethol yn San Steffan yn dweud eu bod yn bwriadu aros yno “am gyfnod amhenodol”.
Fe wnaeth pedwar o ymgyrchwyr Animal Rebellion, sy’n rhan o’r mudiad Gwrthryfel Difodiant [Extinction Rebellion], ddringo swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) tua 6yb ddydd Mawrth (26 Hydref).
Dywed y grŵp ei fod yn mynnu diwedd ar gymorthdaliadau ar gyfer ffermio cig a llaeth mewn protest yn erbyn newid hinsawdd.
Maen nhw’n bwriadu aros yn eu lle nes bod Boris Johnson yn addo annog holl arweinwyr y byd i ddod â chymorthdaliadau o’r fath i ben pan fyddan nhw’n mynychu uwchgynhadledd Cop26 yn Glasgow yr wythnos nesaf.
Mae’r heddlu yn ogystal â’r gwasanaeth tân yn bresennol ac mewn cyswllt â’r protestwyr, er nad oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yma.
Dywedodd Heddlu’r Metropolitan: “Yn fuan ar ôl 6yb cawsom ein hysbysu am grŵp bach o brotestwyr yn dringo y tu allan i adeilad y Llywodraeth yn Stryd Marsham i gael mynediad i’r to.
“Mae swyddogion yno gyda Brigâd Dân Llundain ac mewn cysylltiad â’r protestwyr.
“Hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw arestiadau.”
“Neges glir”
“Fe ddringodd ein protestwyr yr adeilad yn oriau mân y bore ma i anfon neges glir ein bod am gael diwedd ar gefnogi amaethyddiaeth anifeiliaid sy’n lladd ein planed,” meddai llefarydd ar ran Animal Rebellion, Nathan McGovern.
“Mae’r pedwar, sydd tua 10 i 20 metr i fyny, wedi dadorchuddio baner yn dweud ‘Cop26: Invest in a plant-based future’.
“Cawn weld beth yw’r sefyllfa gyda’r heddlu, ond y cynllun yw aros yno am gyfnod amhenodol a bydd hyn yn parhau i fod yn brotest heddychlon.”