Mae disgwyl i filiynau o weithwyr gael codiad cyflog yn y Gyllideb wrth i’r Canghellor gyhoeddi bod economi’r Deyrnas Unedig “ar drywydd cadarn” yn dilyn y pandemig.
Mae Rishi Sunak wedi cadarnhau y bydd yn sgrapio’r polisi o rewi cyflogau yn y sector cyhoeddus pan fydd yn cyhoeddi ei Gyllideb yfory (Dydd Mercher, 27 Hydref).
Fe allai olygu codiad cyflog posib i athrawon, nyrsys, yr heddlu ac aelodau’r lluoedd arfog.
Yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd 5.68 miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus wedi’u cofrestru ym mis Mehefin.
Ym mis Tachwedd y llynedd roedd y Canghellor wedi rhewi cyflogau yn y sector cyhoeddus ar gyfer 2021/22 gan eithrio’r Gwasanaeth Iechyd a’r rhai oedd yn ennill llai na £24,000, ar ôl gorfod gwneud benthyciadau sylweddol yn ystod argyfwng Covid-19.
Ond dywedodd Rishi Sunak, gydag adferiad yr economi ar ôl i’r cyfyngiadau coronafeirws gael eu codi, ei fod yn “briodol” bod gweithwyr rheng flaen yn “gweld eu cyflogau’n codi”.
Ond mae rhai wedi cwestiynu a fydd gweithwyr yn gweld gwahaniaeth yn eu cyflogau o ystyried bod y Canghellor wedi codi Yswiriant Gwladol ac wedi torri Credyd Cynhwysol wrth i chwyddiant godi.