Mae disgwyl i bont newydd gwerth £1.2m gael ei hadeiladu ym Mhen Llŷn cyn y mewnlifiad disgwyliedig o bobol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2023.

Bydd hi’n cymryd lle Pont Bodfel sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ar afon Rhyd-hir ar yr A497 rhwng Efailnewydd a Boduan.

Yn hanesyddol hon sydd wedi cario’r brif ffordd o Nefyn i Bwllheli.

Ond fe gaeodd ym mis Ionawr 2019 ar ôl cael ei ddatgan yn anniogel oherwydd bod un o bileri’r bwa yn cwympo i’r afon islaw ar ôl cael ei daro gan gerbyd.

Mae Cyngor Gwynedd bellach yn cynnig adeiladu strwythur newydd ychydig i lawr yr afon tra hefyd yn cadw’r gwreiddiol fydd yn cael ei atgyweirio.

Wrth siarad y llynedd dywedodd Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd: “Dioddefodd Pont Bodfel ddifrod strwythurol sylweddol a achoswyd gan ddifrod o dan sylfeini’r bont.

“Gan ei fod yn bont Gradd II sy’n dyddio’n ôl i ddechrau’r 19eg ganrif, mae ei hatgyweirio wedi bod yn her logistaidd fawr.

“Gan fod Pont Bodfel yn bont un lôn gul, buom yn ystyried a fyddai wedi bod yn bosibl ehangu’r strwythur fel rhan o’r gwaith cynnal a chadw.

“Fodd bynnag, ar ôl trafodaethau gyda Cadw a swyddogion cadwraeth, daeth yn amlwg na fyddai hyn yn bosibl.

“Felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer pont bwa concrid 17 metr newydd sy’n codi 3 metr dros Afon Rhyd-hir.”

Eisteddfod Genedlaethol 2023

Gyda’r ardal yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2023 ar dir gerllaw, mae’r dogfennau ategol yn dweud: “Bydd y datblygiad newydd yn borth teithio annatod i’r Eisteddfod.

“Bydd gwaith adeiladu a chwblhau llwyddiannus cyn yr Eisteddfod yn sicrhau cyswllt ffordd gyfleus a allai arwain at fwy o ymwelwyr yn mynd oddi ar y safle ac yn cefnogi busnesau lleol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Cynigir bod y bont dros dro yn cael ei symud fel rhan o gam cychwynnol y gwaith adeiladu ar gyfer y bont newydd.

“Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd traffig yn cael ei gyfeirio dros hen bont y gwaith maen a bydd angen goleuadau traffig oherwydd culni’r gerbytffordd dros y bont.”

Mae disgwyl penderfyniad pan fydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn cyfarfod ddydd Llun (1 Tachwedd).