Mae’n rhaid i arweinwyr weithredu nawr neu “fe fydd yn rhy hwyr” i’r blaned – dyna rybudd Syr David Attenborough cyn y gynhadledd ar newid hinsawdd yn Glasgow.

Mae Cop26 yn cael ei ystyried fel cyfle i geisio cadw’r tymheredd fyd eang i ddim mwy na 1.5C, ond mae Syr David Attenborough yn feirniadol o’r rhai sy’n wfftio’r argyfwng hinsawdd.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd y naturiaethwr a’r darlledwr bod y “newidiadau sy’n digwydd i’r blaned, ry’n ni’n gyfrifol amdanyn nhw, yn cael effaith ddinistriol.”

Ychwanegodd: “Os nad ydan ni’n gweithredu nawr, fe fydd yn rhy hwyr. Mae’n rhaid i ni wneud e nawr.”

Mae gan wledydd y gorllewin, fel y Deyrnas Unedig, “ddyletswydd foesol” i helpu’r miloedd o ffoaduriaid sydd wedi “colli popeth” oherwydd newid hinsawdd, meddai David Attenborough, sy’n 95 oed.

“Ni sydd wedi achosi hyn – mae’n math ni o ddiwydiannu yn un o’r brif ffactorau sydd wedi achosi newid yn yr hinsawdd. Mae gennym gyfrifoldeb moesol,” meddai wrth y BBC.

Yn gynharach yn y mis dywedodd David Attenborough, a fydd yn bresennol yng nghynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, bod posibiliadau Cop26 yn rhoi “rhywfaint o obaith” iddo.

“Am y tro cyntaf fe fydd pobl o gwmpas y byd yn cael clywed y dadleuon am yr hyn ddylwn ni wneud, y dadansoddi ynglŷn â’r problemau, a beth yw’r atebion,” meddai.

Fe fydd Boris Johnson yn croesawu arweinwyr byd i Glasgow ar gyfer y gynhadledd sy’n dechrau ddydd Sul er ei fod wedi dweud ei fod yn “ansicr” a fydd eu prif nodau’n cael eu cyrraedd gan fod arweinwyr rhai o’r gwledydd sy’n llygru waethaf wedi penderfynu peidio mynychu’r digwyddiad.

Yn gynharach yn y mis, dywedodd y Frenhines y byddai’n mynychu Cop26, ac yn ystod ymweliad a Chaerdydd, fe awgrymodd ei bod wedi colli amynedd gyda’r diffyg gweithredu i fynd i’r afael a newid hinsawdd.