Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu sut y byddan nhw’n ceisio annog pobol i brynu cerbydau trydan.
Yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Wefru Cerbydau Trydan, bydd y Llywodraeth yn ceisio gwella’r seilwaith cerbydau trydan drwy gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cyhoeddus sydd ar gael ledled Cymru.
Er mwyn gwneud hynny, byddan nhw’n gweithio gyda’r sector preifat, gyda’r nod o ddarparu pwynt gwefru ar gyfer pob 20 milltir o’r rhwydwaith ffyrdd erbyn 2025.
Mae trafnidiaeth yn cyfrannu at oddeutu 17% o’r holl allyriadau carbon yng Nghymru, ac mae’r seilwaith cerbydau trydan yn ei ddyddiau cynnar, gyda dim ond ychydig dros 1,000 o bwyntiau gwefru cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi cyhoeddi y bydd gwaharddiad ar werthu ceir petrol, diesel a hybrid newydd yn dod i rym erbyn 2035, ac mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn dangos awydd i gyrraedd y nod hwnnw.
Cyhoeddi’r cynllun
Mae strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Llwybr Newydd, yn nodi sut y byddan nhw’n annog mwy o bobol allan o’u ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded a beicio dros yr 20 mlynedd nesaf.
Roedd Lee Waters – y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth – yn dweud bod y deng mlynedd nesaf yn allweddol wrth leihau allyriadau sy’n deillio o drafnidiaeth.
“Mae angen i ni wneud mwy yn y deng mlynedd nesaf nag yr ydym wedi’i wneud yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf os ydym am gyrraedd ein targed sero net erbyn 2050,” meddai.
“Bydd troi oddi wrth ein dibyniaeth ar geir ac annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol, ond ar gyfer y teithiau car hanfodol hynny, mae newid i gerbyd trydan yn ffordd arall y gallwn wneud gwahaniaeth.
“Mae’r cynllun rwyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd i ddarparu seilwaith cerbydau trydan o ansawdd uchel ledled Cymru.
“Gan weithio gyda’r sector preifat, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru ledled y wlad, i roi hyder i yrwyr newid wrth i’r galw am gerbydau trydan gynyddu.”
Mae Cronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel y Llywodraeth eisoes wedi rhoi hwb ariannol i lawer o brosiectau a chyfleusterau cerbydau trydan ledled Cymru, a bydd modd gwneud ceisiadau o’r newydd am arian o’r Gronfa o fis Rhagfyr.