Rhondda Cynon Taf sydd a’r nifer uchaf o domenni glo risg uchel o blith yr holl awdurdodau lleol, yn ol data newydd sydd wedi ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Hydref 26) sy’n dadansoddi’r holl domenni glo yng Nghymru.

Yn dilyn asesiad o bob un o’r 2,456 tomen yn y wlad, mae Llywodraeth Cymru yn ymbil ar Lywodraeth San Steffan i fuddsoddi mwy o arian i’w diogelu.

Mae’r data’n dangos bod 327 tomen lo yng Nghymru yn y categorïau risg uwch, ac yn Rhondda Cynon Taf mae 75 yn y categori hwnnw.

Er nad yw hynny’n golygu bod bygythiad difrifol i bobol sydd yn y cyffiniau, mae angen iddyn nhw gael eu harchwilio’n amlach oherwydd y risg uwch hynny.

Fe wnaeth Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ddatgan yn gynharach yn y mis fod y Llywodraeth wedi casglu’r holl ddata ar y cyd ag awdurdodau lleol a fforymau cydnerthedd lleol.

“Byw yng nghysgod tomen lo yn destun pryder i gymunedau”

Mae’n cael ei amcangyfrif y bydd y gwaith o addasu, sefydlogi ac adfer hen domenni glo yn costio o leiaf £500-£600m dros y degawd a hanner nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod angen buddsoddi’r rhan fwyaf o’r arian hwn ar frys, wrth i batrymau tywydd newid oherwydd newid hinsawdd.

“Rydym yn cydnabod fod byw yng nghysgod tomen lo yn destun pryder i gymunedau ac rydym am sicrhau trigolion lleol bod llawer o waith yn cael ei wneud i’w gwneud yn ddiogel,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.

“Mae trefn archwilio a chynnal a chadw ar waith, gydag archwiliadau gaeaf eisoes wedi cychwyn yn y tomennydd uwch eu risg.

“Rydym hefyd yn treialu technoleg i ddeall yn well symudiad y tir ar safleoedd risg uwch. Ond rydym yn gwybod y bydd y risgiau’n cynyddu wrth i’r hinsawdd newid ac mae’n hanfodol cael hyd i ateb tymor hir.

“Mae’r safleoedd hyn yn dyddio o’r cyfnod cyn datganoli. Nid yw ein setliad ariannu yn cydnabod costau sylweddol, hirdymor adfer a thrwsio’r safleoedd.

“Mae’r Adolygiad Gwariant yfory yn gyfle i Lywodraeth y DU ddefnyddio ei phwerau ariannol i helpu cymunedau sydd wedi rhoi cymaint i Gymru a’r Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd glofaol.

“Bydd pecyn buddsoddi i adfer y safleoedd hyn yn dangos sut y gall ein dwy lywodraeth gydweithio er lles y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”