Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad tebygol y bydd cronfa gwerth £130m ar gael i helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Mae disgwyl y cyhoeddiad fel rhan o Gyllideb y Canghellor Rishi Sunak.
Bydd y gronfa’n cael ei gweithredu gan Fanc Busnes Prydain, ac fe fydd yn helpu busnesau yng Nghymru i fuddsoddi a thyfu, gan adeiladu ar lwyddiant cronfeydd eraill yn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Maen nhw’n dweud y bydd yn creu swyddi sy’n talu’n dda, swyddi cynhyrchiant uchel ac yn gwella sgiliau’r gweithlu.
Mae cronfeydd tebyg ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon eisoes sy’n cynnig benthyciadau neu’n buddsoddi mewn cwmnïau lleol sydd newydd gael eu sefydlu i roi benthyg symiau amrywiol o arian yn dibynnu ar amgylchiadau’r busnesau.
‘Amgylchiadau anodd y pandemig’
“Mae busnesau ledled Cymru wedi addasu ac wedi gweithredu ar ran cymunedau mewn amgylchiadau anodd trwy gydol y pandemig,” meddai Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig.
“Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae Llywodraeth Prydain yn parhau i gefnogi busnesau bach yng Nghymru i’w helpu nhw i daro’n ôl yn gryfach nag erioed.
“Blaenoriaeth Llywodraeth Prydain yw cael pobol yn ôl i’r gwaith, helpu busnesau i ffynnu a chyflwyno adferiad economaidd cryf i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
“Mae mwy o sicrwydd a masnach ar gyfer busnesau’n golygu mwy o lewyrch a mwy o swyddi ar y farchnad yng Nghymru, ac mae hi bellach yn bryd i fusnesau hefyd gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw gan Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd – sy’n gyfrifol am ddatblygiad economaidd – wrth i ni symud y tu hwnt i’r pandemig ac anelu am economi sydd wedi’i hadfywio, sydd â chyflogau a thwf sylweddol.”