Mae’r rheithgor yn y cwest i farwolaeth cyn-filwr wedi methu â dod i ddyfarniad.

Cafodd Spencer Beynon, 43 oed o Lanelli, ei saethu â gwn Taser gan yr heddlu ar Fehefin 14, 2016 yn dilyn pryderon am ei ymddygiad.

Roedd e’n dioddef o anhwylder straen ar ôl trawma (PTSD) ar ôl gwasanaethu yn Affganistan ac Irac.

Doedd y rheithgor ddim yn gallu dod i benderfyniad ynghylch sut y bu farw, ac fe gawson nhw eu hanfon adref gan y crwner.

Roedd yn rhaid iddyn nhw geisio penderfynu rhwng hunanladdiad a marwolaeth trwy anffawd, ac roedd y crwner yn barod i dderbyn barn y mwyafrif.

Bydd cwest newydd yn cael ei gynnal maes o law.

‘Clwyfau i’w wddf ac nid Taser oedd yn gyfrifol am farwolaeth cyn-filwr’

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn pryderon am ymddygiad Spencer Beynon, 43 oed, yn Llanelli yn 2016