Mae crwner wedi gorchymyn rheithgor yn y cwest i farwolaeth cyn-filwr i gyhoeddi rheithfarn o farwolaeth o ganlyniad i glwyfau i’w wddf ac nid o ganlyniad i’r defnydd o wn Taser.

Bu farw Spencer Beynon, 43, ar ôl i’r heddlu gael eu galw i Lanelli ar Fehefin 14, 2016 yn dilyn pryderon am ei ymddygiad.

Dywedodd Oliver West, un o ddau blismon wnaeth ymateb, nad oedd “ganddo ddewis” ond defnyddio Taser i dawelu’r cyn-filwr, gan fynnu ei fod e wedi sefyll yn barod i ruthro ato.

Mae tystion eraill, gan gynnwys y blismones Sian Beynon, yn dweud na welson nhw’r dyn yn codi i’w draed cyn iddo gael ei saethu.

Ond mae’r crwner wedi gorchymyn y dylid canfod mai clwyfau i’w wddf oedd wedi arwain at ei farwolaeth, ac nid y gwn Taser a hynny ar sail tystiolaeth feddygol.

Dim ond hunanladdiad neu farwolaeth drwy anffawd yw’r opsiynau oedd ar gael i’r rheithgor, meddai.

Mae’r rheithgor bellach yn ystyried eu penderfyniad.

Cefndir ac ymateb y teulu

Mae teulu Spencer Beynon wedi beirniadu penderfyniad y crwner.

Dywedodd eu cyfreithiwr eu bod nhw “wedi’u ffieiddio” gan y penderfyniad a’u bod nhw’n “siomedig” ar ôl bron i bum mlynedd a hanner o frwydro am gwest gerbron rheithgor.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “ei chael hi’n anodd deall diben cwest rheithgor os gall y crwner weithredu yn y modd yma”.

Roedd Spencer Beynon, oedd wedi gwasanaethu’r lluoedd arfog yn Affganistan, wedi dioddef o ganlyniad i anhwylder straen ar ôl trawma (PTSD) ers iddo ddod adref a chael ei ryddhau o’i wasanaeth.

Ar y diwrnod y bu farw, roedd yr heddlu wedi cael gwybod ei fod yn rhedeg drwy’r ardal heb esgidiau ac yn dal cyfarpar canabis ac yn gweiddi “Fi yw’r Iesu”.

Roedd yn cario’i gi a gafodd ei ganfod yn farw yn ddiweddarach ar ôl cael ei drywanu i farwolaeth, ac mae lle i gredu iddo dorri ffenest a bygwth taflu asid at ddynes.

Pan aeth yr heddlu i’w gartref yn Llanelli, cafwyd hyd iddo ar lawr a doedd e ddim yn ymateb iddo ac yn gwaedu’n ddifrifol o’i wddf.

Dywedodd Oliver West ei fod e wedi dweud wrtho ei fod e eisiau marw wrth iddo godi i’w draed a rhuthro tuag atyn nhw.

Dyna pryd y cafodd ei saethu, cyn cymryd cam yn ôl a chwympo i’r llawr ac fe gafodd e driniaeth wedyn.

Clywodd y cwest nad yw Oliver West yn gweithio i’r heddlu erbyn hyn, a hynny ar ôl iddo gyfaddef dwyn batri fan o safle gwrthdrawiad yn 2019.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod Spencer Beynon wedi cael anafiadau parhaus i’w ben ond does dim tystiolaeth fod hynny wedi cyfrannu at ei ymddygiad.

Mae ei deulu’n dweud y dylid fod wedi sicrhau ei les ar ôl i’w dad Christopher ffonio’r heddlu y bore hwnnw yn dweud bod ei fab wedi mynd yn “hollol wallgof”.

Mae’r cwest yn cael ei gynnal yn stadiwm Parc y Scarlets yn Llanelli.

Gwn Taser: Dyn fu farw yn gyn-filwr

Y dyn o Lanelli wedi’i enwi’n lleol fel Spencer Beynon, 43