Mae awdurdodau iechyd sy’n gyfrifol am siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion yn awgrymu rhai pethau y gall y cyhoedd eu gwneud i’w helpu yn sgil “galw digynsail” am wasanaethau iechyd a gofal yno.
Mewn datganiad ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chynghorau’r tair sir, maen nhw’n awgrymu y gall pobol sydd â pherthynas yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros am ofal cartref neu gymorth iechyd cymunedol, eu helpu nhw i gyrraedd adre’n gynt os ydyn nhw mewn sefyllfa i’w cefnogi nhw gartref.
Mae’r “galw digynsail” yn arwain at oedi sylweddol mewn darpariaeth gofal, meddai’r awdurdodau.
Mae’r anhawster i ryddhau cleifion sy’n ddigon iach yn feddygol o ysbytai yn arwain at brinder sylweddol o welyau.
O ganlyniad, mae ambiwlansys yn aros am amser hir ger adrannau brys, sy’n golygu na all parafeddygon ymateb i alwadau 999 eraill, meddai’r datganiad.
‘Cefnogaeth enfawr’
Yn ôl y datganiad, mae timau gofal cymdeithasol ac iechyd yn gwneud popeth posib i gefnogi pobol sydd yn ddigon da i adael yr ysbyty, ond sydd angen gofal parhaus.
Mae’r flaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae pecynnau iechyd a gofal amgen yn cael eu cynnig fel mesur tymor byr.
Mae mwy o ofalwyr a staff iechyd hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi pobol mewn angen.
Fodd bynnag, mae’r awdurdodau yn gofyn i bobol ystyried cynnig cefnogaeth a gofal ar drefniant tymor byr neu dros dro i’w perthynas os ydyn nhw’n aros am becyn gofal ffurfiol.
Maen nhw hefyd yn awgrymu yr hoffai pobol ystyried a fyddai’n bosib i’r perthynas gael gofal mewn cartref nyrsio neu leoliad gofal preswyl dros dro.
“Os oes gennych berthynas neu rywun sy’n annwyl i chi yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael eu rhyddhau â gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch eu helpu i gyrraedd adref yn gyflymach os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i’w cefnogi nhw gartref,” meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Cyngor Sir Benfro, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gaerfyrddin.
“Mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn well i gleifion ac mae’n golygu y gellir rhyddhau gwelyau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i eraill ag anghenion gofal brys.
“Mae cefnogi cleifion hŷn i gyrraedd adref o’r ysbyty yn effeithlon yn rhan bwysig o’u hadferiad ac mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau negyddol derbyn i’r ysbyty, fel haint a gafwyd yn yr ysbyty, cwympiadau a cholli annibyniaeth.
“Mae eich cefnogaeth nid yn unig yn helpu’ch anwylyd, ond mae’n gefnogaeth enfawr i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd.”