Bydd y gaeaf yn “un o’r cyfnodau caletaf inni wynebu erioed” yn ôl prif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru.
Rhybuddiodd y Dr Andrew Goodall i bawb fod yn barod i ymateb i amgylchiadau a all newid yn gyflym, yn ogystal â lleihau’r amser mae cleifion yn treulio mewn ysbytai.
Yn sgil her y pandemig, mae 17 o gyfadrannau a cholegau brenhinol meddygol yn galw am weithredu cenedlaethol ar brinder staff, anghydraddoldebau iechyd a rhestrau aros.
Mae’r sefydliadau yn galw am gynllun clir i roi diwedd ar y pwysau “anghynaladwy” y mae gweithwyr gofal iechyd yn ei wynebu.
Maen nhw’n dweud mai’r prif reswm tu ôl i’r trafferthion gyda rhestrau aros yw nad oes digon o staff i ymdopi, ac maen nhw’n galw am gynyddu nifer y llefydd mewn ysgolion meddygol ar unwaith.
Arolwg
Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Brenhinol y Meddygon arolwg a ddaeth i’r casgliad bod bron i hanner (46%) meddygon Cymru yn dweud nad yw eu sefydliad yn barod o gwbl ar gyfer y gaeaf.
Mae 37% yn teimlo’n bersonol nad ydyn nhw wedi paratoi, ac mae 63% yn teimlo’n flinedig neu wedi ymlâdd, yn ôl yr adroddiad a gafodd ei wneud y mis hwn.
Dangosodd hefyd bod 33% yn ddigalon, 44% yn besimistaidd, a 28% yn poeni. Dim ond 9% sy’n obeithiol am y dyfodol.
Ateb “syml”
Dywedodd Dr Olwen Williams, is-Lywydd Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon, fod yr ateb yn “syml mewn gwirionedd”.
“Gweithlu, gweithlu, gweithlu. Y prif reswm yr ydym yn cael trafferth gyda rhestrau aros a’r ôl-groniad yw nad oes gennym ddigon o staff i ymdopi,” meddai.
“Nid oes digon o feddygon a nyrsys yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ac mae’r rhai sydd ar ôl wedi blino’n lân ac yn ddigalon. Mae morâl yn isel. Dw i ddim yn gwybod sut rydyn ni’n mynd i fynd trwy’r gaeaf i fod yn onest.
“Rydyn ni wedi gwneud y fathemateg. Er mwyn ymdopi â’r cynnydd disgwyliedig yn y galw gan gleifion dros y degawd nesaf, mae angen i ni fod yn creu 350 o leoedd ychwanegol mewn ysgolion meddygol bob blwyddyn yng Nghymru – bron i ddwbl nifer y lleoedd sydd ar gael nawr.
“O’i gyflwyno’n raddol dros 5 mlynedd, mae hyn yn cyfateb i 70 o leoedd ychwanegol bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf. Fodd bynnag, ym mis Medi 2020 dim ond 25 o leoedd newydd a grëwyd ym mhrifysgol Caerdydd, ac ym mis Medi 2021, dim ond 12 lle.
“Bydd poblogaeth sy’n heneiddio gyda salwch hirdymor, gordewdra cynyddol, datblygiadau mewn genomeg a thechnolegau newydd i gyd yn golygu mwy o alw am feddygon.
“Mae gweithgarwch ysbytai – gofal brys a dewisol – yn tyfu’n gyson, ac nid yw’r rhestrau aros am driniaethau’n mynd yn llai. Mae’n gyfnod anodd iawn i weithio ym maes meddygaeth.”
Morâl isel
Dywedodd Dr Katie Fergus, arweinydd polisi a materion cyhoeddus Cymru gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, bod y 18 mis diwethaf wedi cael “effaith ddwys” ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd meddwl yn darparu gofal i unigolion â phroblemau iechyd meddwl difrifol.
“Mae diffyg mynediad at gymorth cymunedol wedi gosod gofynion uchel iawn ar staff iechyd meddwl y GIG i lenwi’r bylchau. Mae hyn wedi dod yn anghynaladwy,” meddai Dr Katie Fergus.
“Mae blinder a morâl isel yn tyfu o fewn timau gofal, ac mae llawer ohonynt eisoes yn brin o staff. Pan na ellir cynnal cefnogaeth yn y gymuned, mae pobl yn y pen draw yn cael eu derbyn i wardiau ysbyty seiciatryddol heb staff, weithiau filltiroedd lawer o’u cartref oherwydd diffyg gwelyau yn lleol. Mae timau gofal wedi blino o fethu â darparu lefel y gofal y mae eu cleifion yn ei haeddu.”
Ychwanegodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu a Choleg Brenhinol yr Anesthetyddion eu bod nhw’n cefnogi’r alwad am fwy o staff ac adnoddau hefyd.
Cyllid ychwanegol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd £42 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol, ar ben y £248 miliwn sydd eisoes wedi ei ddarparu yn rhan o gyllid adferiad Covid.
Mae’r arian hwnnw am gael ei wario i liniaru’r pwysau ar gapasiti gwelyau ysbytai yng Nghymru, a sicrhau bod gofal mewn argyfwng yn gallu delio ag unrhyw aflonyddwch.
Bydd Cynllun y Gaeaf hefyd yn blaenoriaethu iechyd meddwl, llesiant staff a’r rhaglen frechu ymysg pethau eraill.
Wrth edrych at y gaeaf, fe wnaeth Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd, rybuddio gwasanaethau i fod yn barod i ymateb i amgylchiadau a all newid yn gyflym, yn ogystal â lleihau’r amser mae cleifion yn treulio mewn ysbytai.
“Gwyddom mai’r gaeaf hwn fydd un o’r cyfnodau caletaf inni eu hwynebu erioed, wrth inni wynebu her ddeublyg y pandemig a firysau anadlol, ond bydd Cynllun y Gaeaf yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael bob amser,” meddai Dr Andrew Goodall.
“Mae angen i’n gwasanaethau fod yn hyblyg ac yn gallu ymateb i’r rheini sydd angen gofal yn yr ysbyty pan fydd eu cyflwr yn gwaethygu, yn ogystal â darparu cymorth mor agos â phosibl at y cartref i leihau’r angen iddynt orfod mynd i’r ysbyty i gael gofal.”
‘Gwneud popeth posibl’
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y “gaeaf yn gyfnod heriol bob amser”, a dywedodd y gall pawb chwarae rhan drwy gael brechlyn Covid a meddwl cyn dewis pa ofal sydd ei angen arnyn nhw.
“Bydd ein Gwasanaeth Iechyd yn parhau i gynnig gwasanaethau hanfodol ac mae’n gwneud popeth posibl i sicrhau bod gofal wedi’i gynllunio’n parhau drwy gydol y cyfnod prysur hwn.
“Mae’r pandemig wedi rhoi’r system gofal cymdeithasol dan bwysau aruthrol ac rydym yn credu y bydd buddsoddi mewn galluogi pobl i gael y gofal cywir adref yn atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, yn cyflymu rhyddhau cleifion o’r ysbyty ac yn rhyddhau gwelyau ysbyty angenrheidiol,” meddai Eluned Morgan wrth drafod y cyllid ychwanegol.
“Gyda’r cynllun hwn a’r cyllid ychwanegol gallwn leihau’r tarfu ar ofal wedi’i gynllunio.
“Fodd bynnag, gyda’r pwysau ar y system nid wyf yn disgwyl y byddwn yn gwneud cynnydd gwirioneddol o ran amseroedd aros tan y gwanwyn.
“Ond rwy’n benderfynol o fynd i’r afael â’r mater hwn ac rwy’n ymwybodol iawn ei bod wedi bod yn amser anodd iawn i bobol sydd wedi bod yn aros yn hir am driniaeth.
“Bydd y Byrddau Iechyd yn parhau i gefnogi’r rheini sy’n aros am driniaeth.”
‘Amser gweithredu’
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Russell George, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “gopïo a phastio” yr un cynllun â llynedd.
“Mae cynllun Llafur i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gaeaf hwn yr un fath, fwy neu lai, ag un llynedd, sydd wedi’n harwain ni at sefyllfa lle rydyn ni’n dioddef yr amseroedd aros gwaethaf erioed mewn adrannau brys, yr ôl-groniad hiraf erioed am driniaethau, ac amseroedd ymateb araf gan ambiwlansys,” meddai.
Ym mis Medi, fe wnaeth 52.3% o ambiwlansys gyrraedd achosion lle’r oedd bywyd rhywun mewn perygl o fewn wyth munud. Roedd hyn yn ostyngiad o 57.6% ym mis Awst.
Mae’r data hefyd yn dangos mai dim 66.8% o gleifion arhosodd lai na phedair awr mewn adrannau brys yng Nghymru yn ystod mis Medi.
Dangosa ystadegau ychwanegol ar gyfer mis Awst bod y nifer uchaf erioed o bobol yn aros am driniaethau, gyda 657,539 o bobol ar restrau aros, sy’n gynnydd o 14,000 ers mis Gorffennaf.
“Mae eu cynllun yn edrych fel ymarfer copïo a phastio, rhywbeth sydd yn fwy dryslyd gan fod y gweinidog wedi adrodd arno’n hwyr a gydag oedi ychwanegol,” meddai Russell George AoS.
“Ar ôl chwarter canrif o reolaeth wael, mae’n amser i Lywodraeth Cymru gyfaddef ein bod ni’n wynebu argyfwng a gweithredu ar y methiannau, o reoli haint i flinder staff a lleihad yn nifer y gwelyau.”