Mae rhai trigolion yn Abersoch wedi cyhuddo Plaid Cymru o ‘droi eu cefnau’ ar y gymuned a’r Gymraeg.

Fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd, sy’n cael ei reoli gan gynghorwyr Plaid Cymru, bleidleisio’n unfrydol i gau ysgol gynradd Abersoch ym mis Rhagfyr eleni.

Daeth y penderfyniad yn dilyn niferoedd disgyblion isel a’r costau cynyddol o’i chynnal, ac er eu bod nhw wedi derbyn nifer o wrthwynebiadau mewn ymgynghoriad.

Bydd y saith disgybl sydd yn parhau i gael eu haddysg yn yr ysgol yn cael eu symud i Ysgol Sarn Bach ar ddechrau 2022.

Dywedodd Margot Jones, Cadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol, wrth raglen Y Byd ar Bedwar fydd yn cael ei darlledu heno ar S4C, ei bod hi wedi ei siomi gan Blaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ac yn genedlaethol.

“Fel aelod o Blaid Cymru, dw i methu coelio’r peth,” meddai ar rhaglen

Siom

“Dw i wedi cael siom mawr. Maen nhw wedi troi eu cefnau arnom ni yma yn Abersoch.

“Dw i’n bendant na fydda i byth eto yn pleidleisio dros Blaid Cymru.”

“Dydy’r ysgolion eraill ddim yn y pentref,” meddai Margot Jones.

“Mae bod yn rhan o’r gymuned mor bwysig.

Haeddu

“Mae’n bwysig i’r plant ac mae’n bwysig i’r bobl sy’n byw yma.

“Mae pawb yn gweld y lle ‘ma jyst fel holiday camp, ond dydy o ddim.

“Mae ’na bobol Gymreig dal yn byw yn Abersoch. Mae ’na gymuned yma, ac rydyn ni’n haeddu ysgol.

“Dw i ddim yn credu bod yr aelodau Cabinet na Phlaid Cymru i gyd yn deall y gair ‘cymuned’, nac eisiau hybu’r iaith Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am eu hymateb i’r sylwadau.

Bydd y bennod o Y Byd ar Bedwar sy’n edrych ar Ysgol Abersoch yn cael ei darlledu ar S4C heno (20 Hydref) am 20:25