Cafodd dyn o Lanelli ei garcharu am 12 mis ar ôl ymosod ar dri swyddog heddlu yn ystod arést.

Dioddefodd y tri swyddog benywaidd a oedd yn cyflawni eu dyletswyddau anafiadau mewn ymosodiad digymell wrth law’r dyn yr oeddent yn ceisio’i arestio.

Yr oedd swyddogion wedi gweithredu gwarant yng nghartref John Steven Knight, ar Stryd Stafford, Llanelli, ar gyfer mater digysylltiad.

Gan nad oedd y dyn 37 oed adref, aeth Cwnstabl Jaye Blanco-Martin, y Ditectif Gwnstabl Eleri Owen, a chydweithwraig sydd ddim eisiau cael ei henwi, i’w weithle yn Rhydaman.

Wrth i swyddogion siarad â Knight, i gychwyn, yr oedd yn ddigynnwrf ac ufudd. Ond yna, ceisiodd ddatgloi ei ffôn.

Tystiolaeth

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl sydd ddim yn cael ei henwi: “Â minnau’n ofni bod Knight yn ceisio dileu tystiolaeth a rhwystro ymchwiliad heddlu, gafaelais yn ei fraich chwith er mwyn ceisio cymryd y ffôn wrtho.

“Newidiodd personoliaeth Knight a’i agwedd tuag at y swyddogion yn syth.

“Symudodd ei ffôn i’w law arall, a dechreuodd ymladd yn ein herbyn ar unwaith. Yr oedd yn tynnu i ffwrdd, ac yn amlwg yn ceisio dianc.

“Yn ddisymwth, teimlais Knight yn fy ngwthio, gan ddefnyddio holl bwysau ei gorff. O ganlyniad uniongyrchol i’r ergyd hwn, syrthiais i’r llawr, gan daro fy mhen. Teimlais boen ac anghysur i’m pen yn syth, ac fe ddechreuodd guro.”

Ffrwgwd

Yn y ffrwgwd, glaniodd y tri swyddog ar y llawr ar ôl cael eu gwthio a’u taflu yn erbyn celfi, welydd a ffrâm drws.

Er waethaf ymdrechion Knight, llwyddodd y swyddogion i’w arestio, er eu bod wedi’u gadael â’r marciau i ddangos eu bod nhw wedi bod mewn ffrwgwd.

Amheuwyd bod un swyddog yn dioddef anaf pen, ac roedd angen sgan CT arni. Dioddefodd y tair ohonynt friwiau a chleisiau mewn mannau gwahanol ar eu cyrff.

Ychwanegodd y swyddog: “Yr oeddwn yn bryderus iawn ynghylch diogelwch fy nghydweithwyr a minnau. Roedd Knight yn ddyn cryf ei gorff a dros 6 troedfedd o ran taldra, ac roedd ganddo’r cryfder i dynnu tri swyddog i’r llawr gydag ef.”

Ymddangosodd Knight gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ar 29 Medi, y diwrnod ar ôl iddo gael ei arestio, ar 28 Medi, pan gafodd ei ddedfrydu i 12 mis o garchar.

Poeni

Yn dilyn y profiad brawychus, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Owen: “Yn ystod y digwyddiad, yr oeddwn yn poeni am ddiogelwch fy nghydweithwyr, yn ogystal â’m diogelwch fy hun.

“Yr oeddwn yn teimlo’n agored i niwed gan mai dim ond tair dynes oedd gyda dyn tua 6’2” o ran taldra a oedd yn gwrthod arést ac yn ymosod ar swyddogion.

“Ni fyddaf byth yn anghofio hyn. Bydd yn rhywbeth a fydd yn aros gyda mi drwy gydol fy ngyrfa. Nid oeddwn yn disgwyl mynd i’r gwaith y diwrnod hwnnw i ddioddef ymosodiad. Yr oeddwn ond yn gwneud fy ngwaith.”

Annerbyniol

Yn dilyn cynnydd mewn ymosodiadau o’r fath, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cydgysylltu â gwasanaethau brys Cymru i lansio’r ymgyrch blwyddyn o hyd ‘Gweithiwch Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn’.

Sefydlwyd yr ymgyrch hon ar ôl i 4,240 o ymosodiadau gael eu cyflawni yn erbyn gweithwyr brys, gan gynnwys swyddogion heddlu, swyddogion tân a chriwiau ambiwlans, rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020, sy’n cynrychioli cynnydd misol o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%, ar gyfartaledd.

Dywedodd, Emma Ackland, dirprwy brif gwnstabl dros dro Heddlu Dyfed-Powys: “Mae ymosodiadau ar swyddogion heddlu’n parhau i gynyddu, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Ni ddylai’r un swyddog ddisgwyl dioddef unrhyw fath o ymosodiad wrth wneud ei orau glas i wasanaethu’r cyhoedd, ac o bosibl, arbed bywydau.

“Mae’n hollbwysig bod dedfrydau a roddir yn adlewyrchu’r niwed a’r gofid a achosir i’r dioddefwyr hyn – gweithwyr proffesiynol sy’n gwneud eu gwaith.”