Ymhen pythefnos bydd hi’n Noson Tân Gwyllt unwaith eto, ac mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ledled Cymru.

Dyma fydd y tro cyntaf i drefi allu cynnal digwyddiadau swyddogol ers 2019, oherwydd bod Noson Guto Ffowc y llynedd wedi disgyn yng nghanol y cyfnod clo byr ym mis Tachwedd.

Mae digwyddiadau poblogaidd yn cael eu cynnal eleni yng Ngerddi Soffia yng Nghaerdydd, Bae Abertawe, a Pharc y Scarlets yn Llanelli.

Bydd arddangosfeydd hefyd i’w gweld yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Llandudno a’r Rhyl dros y penwythnos, cyn belled â bod y tywydd yn caniatáu.

Mae trefnwyr llawer o’r digwyddiadau yn pwysleisio y byddan nhw’n ystyried cyflwyno mesurau diogelwch oherwydd bod sefyllfa Covid-19 yng Nghymru yn parhau i achosi pryderon.

Gyda phythefnos i fynd tan y pumed o Dachwedd, does dim sicrhad y bydd pob un o’r digwyddiadau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn yn mynd yn eu blaen, ond bydd trefnwyr a gwylwyr yn ysu i gael Noson Tân Gwyllt arferol ar ôl y llynedd.

Canslo

Mae nifer o drefnwyr wedi penderfynu canslo digwyddiadau yn gyfan gwbl, yn cynnwys yng Nghaernarfon, Dinbych, Pontypridd a’r Barri.

Fe wnaeth Cyngor Tref Caernarfon y penderfyniad i ohirio’r arddangosfa tân gwyllt eto eleni, oherwydd bod cyfraddau Covid-19 uchel yn yr ardal.

Dywedon nhw ei fod yn “siomedig iawn,” ond bod “dim llawer o ddewis o dan yr amgylchiadau.”

Mewn datganiad tebyg, dywedodd Cyngor Tref Dinbych eu bod nhw wedi trafod y penderfyniad i ganslo o ddifrif, ac er bod “siom i breswylwyr ac ymwelwyr,” roedden nhw’n teimlo bod “diogelwch y Cynghorwyr, y Staff a’r gwirfoddolwyr o’r pwys mwyaf.”

Dywedodd Bord Gron Pontypridd a’r Rhondda, sy’n trefnu arddangosfa tân gwyllt Ponty Big Bang, bod y “pandemig Covid-19 yn amlwg yn dal yma, gydag ansicrwydd parhaus dros sut mae’r firws a’r amrywiolion yn mynd i ledaenu ac effeithio ein cymunedau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”

Roedden nhw hefyd yn dweud nad oedd ganddyn nhw “fwriad i fod yn archledaenwr” o Covid-19.

Roedden nhw’n ystyried y penderfyniad i gyflwyno pasys Covid-19 yng Nghymru fel arwydd bod y sefyllfa’n parhau i fod yn bryderus.

Bydd y digwyddiad poblogaidd, Firework Fiesta, yn Ynys y Barri hefyd yn cael ei ganslo eleni, ynghyd â nifer o ddigwyddiadau eraill ar draws Cymru.