Mae myfyrwraig yn credu iddi gael ei sbeicio drwy gael ei phigo â nodwydd yn ystod noson allan gyda’i ffrindiau.

Dywedodd Zara Owen, 19, o Surrey, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Nottingham, ei bod hi wedi mynd allan nos Lun ddiwethaf (11 Hydref), ond bod ganddi ddim cof o ddim byd yn fuan ar ôl cyrraedd clwb.

Wrth siarad gyda BBC Breakfast, dywedodd Zara Owen: “Fe es i allan gyda fy ffrindiau i glwb nos yn y ddinas – dim byd mwy nag y byddem ni’n arfer ei wneud.

“Dw i’n cofio mynd at y bar, mynd i’r toiled, mynd i’r photobooth, ac wedyn ar ôl hynny mae fy nghof yn blanc nes fy mod i’n cyrraedd adre ac yn estyn charjer fy ffôn.

“Dw i’n gwybod fy mod i heb yfed cymaint ag y byddwn i’n arfer ei yfed ar noson allan y noson hon, ac mae’r ffaith fy mod i ddim yn cofio dim byd yn ddychryn imi oherwydd mae hyn yn rhywbeth anghyffredin i fi.

Pigiad

“Dw i erioed wedi dioddef peidio cofio ond yna’r bore wedyn, doeddwn i ddim yn cofio yn amlwg, ac fe wnes i ddeffro gyda choes boenus iawn.

“Fe wnes i ffeindio pigiad pin yn fy nghoes a hwn oedd canolbwynt y boen. Doeddwn i methu cerdded o’i herwydd ac roeddwn i’n gloff.

“Fel person ifanc sydd yn y brifysgol, dw i’n clywed straeon am bobol sydd wedi bod mewn clybiau nos a chael eu pigo. Dw i wedi clywed straeon am bobol yn cael eu pigo drwy eu llaw neu drwy eu cefnau, felly rhoddodd hyn y syniad i mi mai dyma ddigwyddodd i fi.”

Dywedodd Zara Owen bod ganddi ofn y gallai fod wedi cael ei heintio ag afiechyd os cafodd nodwydd fudr ei defnyddio.

“Cynnydd”

Mae adroddiadau am bobol yn cael eu sbeicio ar gynnydd, meddai’r heddlu.

Dywedodd Kathryn Craner, uwcharolygydd gyda Heddlu Swydd Nottingham, eu bod nhw wedi gweld cynnydd mewn pobol yn credu bod cyffuriau wedi cael eu rhoi yn eu diodydd, a’u bod nhw’n gweithredu i fynd i’r afael â’r mater.

“Mae hynny’n sgil y ffaith eu bod nhw wedi profi teimlad tra gwahanol i’w ymateb arferol i alcohol,” meddai.

“Ond rydyn ni wedi derbyn nifer fechan o adroddiadau lle mae pobol yn dweud wrthym ni, fel Zara, fod hyn wedi bod yn gysylltiedig â phoen neu farc ar ran o’u corff, [neu] gosi, ac fel eu bod nhw wedi cael eu sbeicio yn gorfforol.

“Felly’n amlwg rydyn ni’n cymryd yr adroddiadau hyn gwbl o ddifrif, ac wedi dyrannu adnoddau tuag at hyn er mwyn deall beth sy’n digwydd ac ymchwilio’n fanylach gydag ymchwiliadau CCTV, tystiolaeth fforensig, a gweithio’n agos gyda lleoliadau trwyddedig ynghanol y ddinas.”

Boicotio

Fel rhan o ymgyrch Girls Night In dros y Deyrnas Unedig, mae’r mudiad StopTopps, sy’n ceisio cael gwared ar ddigwyddiadau o sbeicio, yn gofyn i bobol foicotio clybiau a bariau mewn dros 40 dinas dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys Abertawe (nos Fercher, 27 Hydref) a Chaerdydd (nos Wener, 29 Hydref), a’r nod yw annog lleoliadau i wrando ar bryderon pobol ac ymateb i’r cynnydd mewn achosion o sbeicio.

Rhwng 2015 a 2019, cafodd 2,600 o achosion o sbeicio eu hadrodd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr, gyda 72% o’r dioddefwyr yn fenywod.

Er hynny, dangosodd arolwg gan fudiad StopTopps ym mis Mai bod 97.64% o’r rhai atebodd heb ddweud wrth yr heddlu bod eu diodydd wedi cael ei sbeicio.

Mae StopTopps hefyd yn ceisio gwneud i droseddwyr sylweddoli y gall canlyniadau sbeicio diodydd pobol fod yn ddinistriol, ac yn dweud bod angen newid y diwylliant o beidio â chredu pobol sy’n dweud eu bod nhw wedi cael eu sbeicio.

“Epidemig”

Mae achos Zara Owen wedi tynnu sylw at yr “epidemig” o sbeicio diodydd, a gofynnodd cyn-newyddiadurwr gyda’r Guardian i’w merch, sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, a oedd hi wedi clywed am achosion.

Wrth ymateb, cyfeiriodd merch Lucy Ward at ba mor gyffredin yw achosion o sbeicio, ond aeth yn ei blaen i ddisgrifio achlysuron eraill cyffredin o ferched yn cael eu haflonyddu gan ddynion.

Cyfeiriodd at gael ei chyffwrdd gan ddynion heb ganiatâd, dynion yn gweiddi arni ar y stryd, hyd yn oed yng ngolau dydd, gan rywioli holl nodweddion merched – boed yn wallt hir, taldra, neu frychni haul.

Dywedodd bod mynd i glwb nos yn golygu y bydd rhywun yn rhoi eu llaw fyny eich sgert, neu’n dweud bygythiadau neu sylwadau “erchyll”.

“Mae’n digwydd mewn clybiau nos a thafarndai, ymysg cwsmeriaid a thu ôl i’r bar,” meddai.

“Mae o ar y stryd, ac yn y parciau.

“Mae o yn y siopau, y caffis, a’r siop gornel wrth eich ymyl y mae gennych chi ofn mynd iddi oherwydd fe wnaeth y dyn tu ôl i’r cownter sefyll rhyngoch chi a’r drws, ac eich rhwystro rhag gadael, y tro hwnnw.”

Ychwanegodd ei bod hi’n gwybod am ferched sy’n teimlo cywilydd eu bod nhw wedi cael eu sbeicio, ac mai sbeicio drwy bigiadau yw’r broblem ddiweddaraf.

Y peth sy’n codi’r dychryn mwyaf, meddai, yw bod merched ddim wedi’u syfrdanu gan hyn.

“Rydyn ni’n derbyn y dychryn diweddaraf, yn syml, a dod fyny efo ffyrdd newydd o amddiffyn ein hunain, ac wrth gwrs, parhau’n wan ac agored i niwed beth bynnag.”