Bu farw dyn yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Llandudno brynhawn ddoe (dydd Mawrth, 19 Hydref).
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad tua 15:45, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ger mynediad gwesty Neuadd Bodysgallen.
Er gwaethaf ymdrechion swyddogion, bu farw un o’r gyrwyr – dyn lleol a oedd yn ei 70au – yn y fan a’r lle.
Cafodd gyrrwr y car arall ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau.
Bu’n rhaid cau’r A470 rhwng cylchfan Llanrhos a chylchfan Lôn Marl am rhai oriau wedi’r digwyddiad.
Apêl
Mae Sarjant Raymond Williams, o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, yn galw ar unrhyw lygad dystion i roi gwybodaeth iddyn nhw.
“Rydyn ni’n rhoi ein cydymdeimladau dwysaf i deulu’r dyn dan sylw,” meddai.
“Rydyn ni’n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A470 yn agos at leoliad y gwrthdrawiad ac sydd â lluniau dash cam, i gysylltu â ni ar unwaith.
“Hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth [tra bu’r ffordd ar gau].
“Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i’r ymchwiliad gysylltu â swyddogion yr Uned Plismona Ffyrdd drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod digwyddiad Z153572.”