Mae o leiaf 46 o bobol wedi marw a sawl un ar goll yn dilyn llifogydd difrifol yng ngogledd India.

Fe wnaeth timau achub yn nhalaith Uttarakhand weithio drwy gydol y nos i ddod o hyd i gyrff a oedd yn sownd yn y rwbel a symud pobol allan o ardaloedd mewn risg.

Mae’r dalaith wedi dioddef glaw trwm dros dri diwrnod, sydd wedi achosi tirlithriadau a difrod i dai, ffyrdd a phontydd.

Yn dilyn yr effeithiau, mae 2,000 o swyddogion yr heddlu a’r fyddin wedi cael eu galw i helpu’r sefyllfa.

Mae adran dywydd genedlaethol India yn dweud y bydd y tywydd yn ysgafnhau yn Uttarakhand erbyn heddiw (20 Hydref), ond y bydd taleithiau i’r de ac i’r dwyrain yn gweld mwy o law trwm.

Llifogydd Uttarakhand

Daeth mwyafrif y marwolaethau yn nhref Nainital, lle bu farw 28 o bobl ddydd Mawrth, 19 Hydref.

Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu hachosi gan adeiladau yn cwympo oherwydd y glaw trwm.

Yn Mukteshwar, bu farw pum gweithiwr pan ddisgynnodd wal ar eu sianti, ac yn Ramgarh, fe wnaeth naw aelod o’r un teulu farw pan wnaeth llifogydd ysgubo eu cartref i ffwrdd.

Mae arbenigwyr yn dweud bod Uttarakhand wedi gweld 58cm o law yn disgyn mewn dim ond 22 awr, a bod newid hinsawdd wedi effeithio ar ddwyster y glaw, yn ogystal â chysondeb tywydd garw.

Mewn llifogydd ar wahân, roedd o leiaf 39 o bobl wedi marw i gyd yn nhalaith Kerala ddechrau’r wythnos.

O leiaf wyth o bobol wedi marw a dwsin ar goll ar ôl glaw trwm yn Kerala, India.

Y gwaith achub yn parhau heddiw ar ôl i’r glaw greu llifogydd a thirlithriadau