Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect Metro Cymru gwerth £1 biliwn.

Yn ôl Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, fe fydd hyn yn “un o’r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol a chymhleth rydym erioed wedi’i gynnal.”

Bwriad y cynllun yw gwella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru gyda’r nod wella’r amgylchedd trwy annog pobl i ddefnyddio eu ceir yn llai aml.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau ar cenedl Net Sero cyn y gynhadledd newid hinsawdd COP26 yn yr Alban yr wythnos nesaf.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai’r prosiect yn creu rhwydwaith trafnidiaeth fodern, integredig a chynaliadwy sy’n cefnogi ffyrdd modern o fyw.

Heddiw (Hydref 20) mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau mapiau newydd sy’n dangos y cynlluniau fydd yn cael eu datblygu o Gaerffili yn y De ddwyrain hyd at Aberdaugleddau yn y gorllewin.

Ac yn y gogledd, mae’r mapiau yn dangos cysylltiadau gyda Lerpwl, Caer, Wrecsam a Bangor a Chaergybi a hefyd rhwydwaith o Fangor i Gaernarfon ac yna i Aberystwyth.

Prosiectau hirdymor Metro De Cymru: Trafnidiaeth Cymru.

Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • Trydaneiddio 172km i wella amseroedd teithio a gwasanaethau.
  • Hyd at 30% mwy o wasanaethau i wella cysylltiadau ledled Cymru, fel trenau tram newydd sy’n cynnig gwasanaethau cyflym mewn 45 gorsaf ar hyd reilffyrdd y Cymoedd erbyn 2024.
  • Gwasanaethau trenau a bysiau newydd a gwell a llwybrau teithio a fydd yn llesol i leihau pobl sy’n teimlo wedi eu hynysu yng nghefn gwlad.
  • Tocynnau integredig newydd ac opsiynau mwy hyblyg ar gyfer prisiau, drwy ddefnyddio technoleg newydd ar bob bws a mwy na 200 o beiriannau tocynnau newydd mewn gorsafoedd
  • Creu gorsafoedd newydd a gwella rhai presennol ledled Cymru er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy apelgar.
  • Gwifrau uwchben rheilffyrdd sy’n defnyddio 100% o’u hegni gan ffynonellau ynni adnewyddadwy i leihau ein hôl troed carbon.
Prif linell De Cymru: Trafnidiaeth Cymru.

Fe ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters: “Nid prosiect trafnidiaeth yn unig yw’r Metro, mae’n ymwneud â newid bywydau pobl ledled Cymru ac mae’n enghraifft wych o sut mae buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn mynd i’r afael â newid hinsawdd gan ddod â manteision cymunedol ehangach.”

Bydd y prosiect yn ymestyn y Gogledd o Wrecsam i Gaergybi ac fe fydd hefyd yn creu swyddi peirianneg. Mae gobaith hefyd y bydd gosod rheilffordd newydd o Fangor i Gaernarfon ac ymlaen i Borthmadog a Phwllheli yn digwydd.

Cynllun hirdymor Metro Cymru: Trafnidiaeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi heddiw hwb ariannol ychwanegol o £2 miliwn i ehangu’r cynlluniau presennol ar gyfer Metro De-ddwyrain a Metro De-orllewin Cymru.

Mae hyn yn cynnwys gwella gorsafoedd a gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd yn ogystal â chreu rhagor o lwybrau teithio llesol sy’n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol a hygyrch gan gysylltu cymunedau.