Bu’n rhaid i wasanaethau brys achub pedwar o bobol o fws ger Castell-nedd oherwydd llifogydd

Roedd tîm achub o Orsaf Dân Castell-nedd wedi cael eu galw am 08:42yb ar ôl i’r bws fynd yn sownd mewn dŵr ar Rodfa Ynysgerwn yn Aberdulais.

Fe achubon nhw dri oedolyn ifanc, a gŵr arall o’r bws, ac roedd swyddogion yr heddlu a’r awdurdod lleol yn bresennol hefyd.

Roedd swyddogion tân wedi cau’r B4242 yn Aberdulais oherwydd y llifogydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi nodi bod 17 achos o lifogydd yn Sir Gâr, 13 yn Abertawe ac wyth yng Nghastell-nedd Port Talbot i gyd.

Rhwng 05:00yb ac 08:00yb heddiw (dydd Mercher, 20 Hydref), roedd 38 galwad brys yn ymwneud â llifogydd yn ardal y Canolbarth a’r Gorllewin.

Glaw trwm yn achosi llifogydd mewn tai yn y de orllewin

Nifer o ffyrdd wedi eu heffeithio gan lifogydd