Mae’n rhaid i’r Undeb Ewropeaidd ddibynnu llai ar nwyon naturiol er mwyn symud tuag at ynni glân, rhybuddiodd Llywydd Comisiwn Ewrop.

Cyn cynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ar yr argyfwng ynni, dywedodd Ursula von der Leyen bod yr Undeb Ewropeaidd yn mewnforio 90% o’u nwy, llawer ohono o Rwsia, sy’n eu gwneud nhw’n “agored i niwed”.

O ganlyniad, mae hi am i’r Undeb Ewropeaidd gynyddu eu hymdrechion i symud tuag at greu ynni glân drwy’r haul a’r gwynt gan fod pwysigrwydd strategol i hynny.

Mae posib cynhyrchu ynni drwy haul a gwynt o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn y pen draw bydd hynny’n dipyn rhatach na mewnforio tanwydd ffosil.

Mae’r cynnydd diweddar mewn prisiau nwy wedi taro teuluoedd mwyaf agored i niwed yr Undeb Ewropeaidd gyntaf, ac mae Ursula von der Leyen wedi galw eto ar wledydd i sicrhau bod posib addasu trethi ac ardollau ynni er mwyn gwarchod y dinasyddion tlotaf.

Pwysigrwydd strategol

Wrth siarad, dywedodd hefyd ei bod hi’n strategol bwysig i fod yn llai dibynnol ar fewnforion.

Hyd yn oed pe bai partneriaid fel Norwy yn cynyddu eu hallforion i’r Undeb Ewropeaidd i gwrdd â’r cynnydd mewn galw, dydi Rwsia heb wneud hynny.

“Er bod Gazprom [Rwsia] wedi cadw at gytundebau hirdymor gyda ni, ni wnaeth ymateb i gynnydd mewn galw, fel y gwnaeth mewn blynyddoedd blaenorol,” meddai Ursula von der Leyen.

“Felly mae Ewrop heddiw yn rhy ddibynnol ar nwy.”

“Nid yn unig y mae symud at ynni glân yn hanfodol i’n planed. Mae’n hanfodol i’n heconomi, ac i wytnwch [pan mae] ergydion yn sgil prisiau ynni,” meddai.

Roedd hynny’n gyfeiriad tuag at arweinwyr megis Prif Weinidog Hwngari, Viktor Orban, sydd wedi beio’r cynnydd mewn prisiau ynni ar gynlluniau Cytundeb Werdd y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae’r cynllun yn bwriadu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 55% erbyn 2030, a gwneud yr Undeb Ewropeaidd yn garbon niwtral erbyn 2050.