Mae llifogydd wedi effeithio ar nifer o dai yn y gorllewin ac mae adroddiadau o broblemau ar y ffyrdd yn dilyn glaw trwm dros nos.

Mae’r llifogydd wedi taro Sir Gaerfyrddin, Castell nedd ac Abertawe.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin bod glaw trwm wedi achosi llifogydd mewn tai yng Nghydweli, Castell-nedd a Gorseinon.

Hefyd wedi eu effeithio mae Llanelli a Chwm Gwendraeth.

Msr nifer o ffyrdd dan lifogydd hefyd gan gynnwys yr M4, yr A474 a’r A48 i gyd yn y de.

Mae’r A48 rhwng cylchfan Pont Abraham a Fforest yn Sir Gaerfyrddin wedi cau oherwydd llifogydd, ac mae heolydd yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe hefyd wedi’u heffeithio.

Mae’r rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd ar gyfer stormydd ar draws Cymru mewn grym o 04:00 fore Mercher, ac fe fydd yn parhau tan ganol dydd ac yn cynnwys mellt a tharanau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod pedwar rhybudd am lifogydd yn ardaloedd Llanelli a Dyffryn Gwendraeth, a hefyd saith rhybudd i fod yn barod am lifogydd.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai’r stormydd arwain at lifogydd, gan achosi difrod i rai adeiladau.

Fe all rhai gwasanaethau trên a bysiau gael eu effeithio neu eu canslo.

Gwyntoedd

Mae posibilrwydd y gallai cyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill gael eu colli mewn rhai cartrefi a busnesau, ac fe allai gwyntoedd cryfion o 40-45mph effeithio ar rai ardaloedd.

Mae’r rhybudd melyn yn berthnasol i ardaloedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Gwynedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn.

Eisoes mae llifogydd wedi effeithio ar nifer o ffyrdd yn ardal Abertawe a Chastell Nedd.