Mae “pryderon difrifol am ddiogelwch cleifion” wedi dod i’r amlwg ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Mae adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon (CBM), sydd wedi’i weld gan BBC Cymru, yn disgrifio “profiadau ofnus” meddygon ac ymgynghorwyr dan hyfforddiant, gyda rhai’n “ofn mynd i’r gwaith”.
Prinder staffio difrifol a gorweithio yn Ysbyty’r Faenor (Grange) ger Cwmbrân yw rhai o’r problemau sy’n achosi meddygon i deimlo’n isel ac i fod eisiau gadael.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn ymwybodol o’r pryderon sy’n codi yn yr adroddiad ac yn gweithio i ddatrys y problemau.
Cafodd adran ofal gritigol a gwasanaethau arbenigol ysbytai Gwent a Nevill Hall eu canoli yn Ysbyty Prifysgol y Faenor pan agorodd y safle £358m flwyddyn diwethaf.
Y bwriad oedd i leihau nifer y rotas a gwella hyfforddiant i ddoctoriaid ifanc.
Aneffeithlon
Ond mae bwlch ym meddygaeth cyffredinol yn y Faenor, yn ôl yr adroddiad, sydd hefyd yn dweud bod sefyllfa tebyg yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ac Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach.
Disgrifiodd un meddyg dan hyfforddiant weithio ar un o’r safleoedd yma: “Yn ystod shifft nos, nes i drin plentyn pedwar mlwydd oed oedd yn dioddef trawiad. Gymerodd yr ambiwlans chwech awr.
“Fe wnaeth cydweithwyr drin babi 18 mis â llosgiadau. Mae llawer o blant yn dod mewn â phroblemau anadlu. Dyw achosion plant ddim yn anghyffredin.
“Rydyn ni wedi trin cleifion sydd wedi’u trywanu. Fe wnaeth rhai cydweithwyr helpu gyda genedigaeth babi yn yr uned anafiadau llai difrifol. Dylai’r pethau yma ddim digwydd.”
Dywedodd meddyg arall dan hyfforddiant: “Yn ddiweddar nes i anfon rhywun i’r Grange ar gyfer scan a wedyn i’r Gwent ar gyfer apwyntiad arall a wedyn i Nevill Hall.
“Mae hwnna’n dri gwely, tri ambiwlans a thri pherson meddygol yn delio gyda’r un claf. Mae hwnna’n hynod o aneffeithlon.”
Gwrando
Dywedodd un person: “Mae gyda ni gleifion sydd wedi symud wyth gwaith rhwng ysbytai a wardiau gwahanol. Mae’r rhain yn gleifion 90 oed â dementia.
“Mae disgwyl i ddoctoriaid meddygol weithio fel doctoriaid meddygaeth brys, heb y cyfleusterau, y dechnoleg a’r hyfforddiant i wneud hynny’n ddiogel,” ychwanegodd un arall.
Dywedodd nifer o aelodau staff wrth awduron yr adroddiad iddyn nhw wneud sawl cais i godi pryderon gyda’r tîm rheoli, cyn i’r Faenor agor.
“Fe ysgrifennodd tua 60 o ddoctoriaid lythyr i’r prif weithredwr, ond doedden nhw ddim yn gwrando. Roedden nhw’n gwthio i agor y Grange ta beth oedd y sefyllfa. Roedd e’n wallgofrwydd llwyr,” meddai un ymgynghorydd.