Mar BBC Sounds yn lansio podlediad newydd sy’n trafod trychineb Aberfan a’r degawdau o anghyfiawnder wynebodd y gymuned yn dilyn hynny.

Bu fawr 116 o blant a 28 o oedolion yn nhrychineb glofaol Aberfan ar ddydd Gwener, Hydref 21, 1966.

Cafodd Ysgol Gynradd Pant-glas ei tharo gan filoedd o dunelli o wastraff glo ar fore gwlyb yn y gymuned lofaol ger Merthyr Tudful.

Yn y gyfres podlediad naw rhan newydd Aberfan: Tip Number Seven, mae’r plant a oroesodd, ynghyd â rhieni a brodyr a chwiorydd mewn profedigaeth, yn ymuno ag achubwyr wrth iddyn nhw adrodd am eu profiadau yn eu geiriau eu hunain.

Bydd hyn yn cwmpasu’r chwilio am oroeswyr ar y diwrnod, i’w brwydrau hir a chwerw am gyfiawnder ac iawndal dros y degawdau a ddilynodd.

Bydd y gyfres yn archwilio sut a pham y digwyddodd y drasiedi; sut y canfu’r gymuned yr ysbryd i ymladd yn erbyn y Sefydliad, er gwaethaf y cyfan yr oedden nhw wedi bod drwyddo – a pham, hyd heddiw, nad oes neb wedi’i ddal yn atebol am yr hyn a ddigwyddodd.

Mae’r ddwy bennod gyntaf ar gael ar BBC Sounds heddiw (dydd Mercher, Hydref 20), gyda’r saith pennod nesaf ar gael yn wythnosol bob dydd Mercher.

“Lleisiau lleol”

“Bydd stori trychineb Aberfan yn gyfarwydd i bawb yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Colin Paterson, arweinydd BBC Sounds ar gyfer BBC Cymru.

“Mae’r podlediad hwn yn rhoi ffocws arbennig ar yr anghyfiawnderau a arweiniodd at ddigwyddiadau 1966, yn ogystal â’r frwydr dros gyfiawnder wedyn.

“Mae lleisiau lleol yng nghanol y podlediad, a gobeithiwn y bydd yn gwneud cyfiawnder â’u straeon a’r rhai a gollwyd.”