Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i ddiddymu tlodi mislif a “sicrhau urddas mislif i bawb yng Nghymru”.

Yn ôl ymchwil, mae 15% o ferched rhwng 14 a 21 oed yng Nghymru heb allu fforddio nwyddau mislif ar ryw adeg.

Dywed ymchwil fod siarad am y mislif yn destun embaras i bron i hanner merched Cymru, ac nad oedd dros chwarter merched y wlad yn gwybod beth i’w wneud pan ddechreuodd eu mislif.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gweithio i fynd i’r afael â hyn.

‘Urddas’

“Mae’r mislif yn effeithio ar bob un ohonon ni – rydyn ni naill ai yn eu cael ein hunain neu’n nabod rhywun sy’n eu cael,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, wrth amlinellu amcanion y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif.

“Ddylai neb fod dan anfantais o achos eu mislif, a ddylai’r mislif byth fod yn rheswm i rywun fod ar ei golled o ran addysg, cyflogaeth na gweithgarwch cymdeithasol.

“Dylai nwyddau mislif o ansawdd fod ar gael i bawb, i’w defnyddio mewn ardal breifat sy’n ddiogel ac yn gwarchod urddas.

“Dyna pam ein bod ni’n lansio ein Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif heddiw; gan amlinellu gweledigaeth i ddiddymu tlodi mislif, rhoi terfyn ar y stigma o amgylch y mislif, a sicrhau urddas mislif yng Nghymru.”

‘Stigma’

Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw am sicrhau y bydd nwyddau mislif yn eitemau hanfodol yng Nghymru erbyn 2026.

“Rydyn ni eisiau i nwyddau mislif fod ar gael mewn ffordd deg ledled Cymru ac, yn hollbwysig, rydyn ni am roi terfyn ar y stigma, y tabŵau a’r mythau sy’n bodoli ynghylch y mislif,” meddai Jane Hutt wedyn.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw un yn teimlo cywilydd neu embaras ynghylch y mislif a bod pawb yn gallu siarad yn agored ac yn hyderus amdano.”

‘Hanfodol bwysig’

“Mae ymdrech benodol wedi’i gwneud yn y cynllun yma i fod yn groestoriadol, gan ystyried urddas mislif y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol, ac i wneud darpariaeth ar gyfer heriau ychwanegol neu ofynion diwylliannol,” meddai Jane Hutt wrth gloi.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni nawr yn clywed oddi wrth amrywiaeth mor eang â phosibl o bobol Cymru.

“Dw i’n awyddus i sicrhau ein bod ni’n estyn allan at fenywod, pobol ifanc, pobol hŷn, pobol nad ydyn nhw’n ddeuaidd, pobol ryngrywiol a phobol draws, pobol anabl, pobol o wahanol grefyddau, a phobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, er mwyn i’r cynllun ystyried yr holl gwestiynau sy’n gysylltiedig â’r mislif.

“Rydyn ni eisiau sgwrs genedlaethol a chynhwysol am effaith y mislif ar holl gwrs bywyd person, a hynny er mwyn lleihau’r effaith yma, rhoi terfyn ar y stigma a normaleiddio’r mislif.”