Mae Adam Price wedi gofyn i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, sicrhau y bydd Comisiwn Cyfansoddiadol newydd i Gymru yn rhoi ystyriaeth “ddifrifol a sylweddol” i annibyniaeth.

Mae’r comisiwn, sydd wedi’i sefydlu i edrych ar berthynas cyfansoddiadol Cymru gyda gweddill y Deyrnas Unedig, eisoes wedi dweud y bydd annibyniaeth i Gymru yn un o’r opsiynau fydd o dan ystyriaeth gan y comisiwn.

Mae’r comisiwn yn addo ystyried “pob opsiwn blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru”.

Ond yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, fe ofynnodd Adam Price am gadarnhad ynghylch hynny, “A allwch gadarnhau y bydd hynny’n cynnwys, am y tro cyntaf yn achos corff sydd wedi’i sefydlu’n swyddogol, waith difrifol a sylweddol ar annibyniaeth i Gymru?”

Wrth ymateb, fe ddywedodd Mark Drakeford y byddai annibyniaeth yn cael ystyriaeth deg a’i fod e’n bersonol yn barod i roi tystiolaeth.

“Mae cylch gorchwyl y comisiwn yn sicr yn caniatáu i annibyniaeth gael ei hystyried yn un o’r opsiynau hyn,” meddai’r prif weinidog.

“Nid oes unrhyw beth arall yn cael ei ddiystyru chwaith.

“Os caf y cyfle, byddaf yn sicr yn rhoi fy nhystiolaeth i’r comisiwn – mai datganoli sydd wedi’i wreiddio mewn Deyrnas Unedig lwyddiannus yw’r cyfansoddiad gorau i Gymru.”

Bydd y comisiwn, dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister a chyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams, yn edrych ar y system bresennol o bwerau yng Nghaerdydd a Llundain, gan ystyried sut mae modd datrys trefniant cyfansoddiadol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn “anghynaladwy”.

‘Senedd o ddinasyddion’

Ychwanegodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ei fod am weld gwir ystyriaeth i farn y bobol drwy ystyried y posibilrwydd o ganiatáu “Senedd o ddinasyddion”.

“Brif Weinidog, gan wahodd y comisiwn i gyflwyno ei adroddiad interim i gynulliad dinasyddion Cymru—senedd i bobol, os mynnwch — a allai gyfarfod, efallai, Lywydd, hyd yn oed yn y Siambr hon, i drafod dyfodol ein cenedl, fel symbol o’r egwyddor ddemocrataidd fwyaf sylfaenol honno, mai’r bobol, yn y pen draw sydd oll yn gyfartal, ac sy’n gorfod penderfynu ar ein dyfodol fel cenedl?” gofynnodd.

Fe ymatebodd Mark Drakeford drwy ddweud ei fod wedi’i ethol i’r Senedd i gynrychioli barn y bobol ond mynnodd ei fod am weld cymaint o gyfathrebu posib rhwng y comisiwn â phobol Cymru.

Nod y comisiwn yw ystyried “pob opsiwn” gan siarad â phobol ar draws y wlad er mwyn eu cynnwys mewn “sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru”.

‘Annibyniaeth drwy’r drws cefn’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb drwy ddweud bod caniatáu trafodaeth ar annibyniaeth, tra yn gwrthod y syniad o ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru fel gweithred “ryfedd” ar ran y prif weinidog.

“Fydd y comisiwn hwn yn llawn o bobol sy’n cydymdeimlo ag annibyniaeth… ac maen nhw [Llafur a Phlaid Cymru] yn ceisio ennill annibyniaeth drwy’r drws cefn,” meddai James Evans, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.

“Rydych chi’n pleidleisio Llafur ac yn cael annibyniaeth. A fydd y pwyllgor yn edrych ar faterion sydd eisoes wedi eu datganoli gan beidio ag achosi anhrefn cyfansoddiadol a chwarae gemau gyda bywydau pobol Cymru?”

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i sefydlu’r comisiwn yn eu Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021 i 2026, a bydd gweddill yr aelodau’n cael eu cyhoeddi erbyn mis Tachwedd mewn pryd i’w cyfarfod cyntaf.

Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru, bwriad y Comisiwn yw “datblygu opsiynau ar gyfer diwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru’n rhan annatod ohoni”.

 

Comisiwn newydd i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru

Yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams i arwain ar y Comisiwn a fydd yn hybu “sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru”.