Bydd yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams yn arwain Comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i sefydlu’r comisiwn yn eu Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021 i 2026, a bydd gweddill yr aelodau’n cael eu cyhoeddi erbyn mis Tachwedd mewn pryd i’w cyfarfod cyntaf.
Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru, bwriad y Comisiwn yw “datblygu opsiynau ar gyfer diwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru’n rhan annatod ohoni.”
Bydd hefyd yn ystyried opsiynau i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.
Byddan nhw hefyd yn cyfathrebu â’r cyhoedd er mwyn eu cynnwys mewn “sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru”.
Mae Plaid Cymru, sydd wedi bod mewn trafodaethau parhaus â Llywodraeth Cymru, yn credu bod sefydlu’r Comisiwn yn gyfle i ddadlau dros annibyniaeth.
Cadeiryddion y Comisiwn
Mae’r Athro Laura McAllister yn gyn bêl-droedwraig rhyngwladol, a bellach yn academydd profiadol mewn gwleidyddiaeth.
Gallwch ddarllen portread ohoni o gylchgrawn Golwg 13 Mai yma.
“Mae angen cyfraniadau o ddifrif i’n dadl gyfansoddiadol ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein gwaith yn cyfrannu at lenwi’r gofod hwnnw,” meddai’r Athro McAllister.
“Byddwn yn meddwl yn fras ac yn radical am yr holl opsiynau posib ar gyfer dyfodol Cymru, yng nghyd-destun y pwysau cynyddol ar yr Undeb.”
Mae Dr Rowan Williams yn fwyaf adnabyddus am ei gyfnod fel Archesgob Caergaint rhwng 2002 a 2012.
“Gwaith y Comisiwn hwn yw gofyn pa strwythurau a darpariaethau cyfansoddiadol fydd yn rhyddhau potensial cymunedau Cymru a phobl Cymru orau,” meddai yntau
“Rydyn ni eisiau sicrhau bod llywodraethu Cymru yn effeithiol, yn atebol ac yn ddychmygus, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed pa obeithion a gweledigaethau sy’n ysbrydoli pobl ledled y wlad.”
Ymateb Plaid Cymru
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Rhys ab Owen, llefarydd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad a Chyfiawnder, y bydd ei blaid yn manteisio ar y Comisiwn i drafod annibyniaeth.
“Mae Comisiwn Cyfansoddiadol yn gyfle i gynnal y sgwrs genedlaethol fwyaf eang am ddyfodol Cymru yn hanes datganoli,” meddai.
“Rydym yn croesawu’r Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams i’w rolau ac yn dymuno’n dda iddynt yn fel Cyd-gadeiryddion.
“Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol gyda’r Comisiwn a’i waith, gan ddefnyddio pob cyfle y mae’n ei gyflwyno i ddadlau dros annibyniaeth ac y bydd buddiannau ein cenedl yn cael eu gwasanaethu orau pan fydd penderfyniadau dros ddyfodol Cymru yn cael eu rhoi yn nwylo Cymru.”