Bydd ymgyrchwyr yn danfon calon iâ anferth at y Senedd fory (dydd Mawrth, Hydref 19) er mwyn galw am weithredu ar newid hinsawdd.

Mae Climate Cymru, ymgyrch sy’n bartneriaeth rhwng 230 o sefydliadau, yn casglu negeseuon gan bobol ledled Cymru, a byddan nhw’n mynd â nhw at Lywodraeth Cymru.

Bydd y negeseuon yn galw am weithredu yn cael eu danfon at Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, gan brif bartneriaid a llysgenhadon Climate Cymru.

Mae’r digwyddiad yn rhan o’r ymgyrch sy’n canolbwyntio ar gynhadledd newid hinsawdd COP26, a fydd yn cael ei chynnal yn Glasgow fis nesaf.

Bydd y galon iâ yn cael ei goleuo wedi’r digwyddiad, gyda rhai o’r negeseuon gan Gymru i’r gynhadledd.

Yn ogystal â chyflwyno’r negeseuon gan bobol Cymru, bydd Lee Waters, Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd a chadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, a Janet Finch-Saunders, Aelod Ceidwadol o’r Senedd a llefarydd newid hinsawdd y blaid, yn siarad.

Negeseuon

Mae 10,000 o bobol yng Nghymru wedi cyfrannu tuag at y negeseuon hyd yn hyn, ac mae Climate Cymru yn annog pawb i gyfrannu fel bod pobol Cymru yn dylanwadu ar wleidyddion yma ac yn fyd-eang yn COP26.

Bwriad yr ymgyrch yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn dangos arweiniad gydag ymrwymiadau ystyrlon a chyfiawn sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn y gynhadledd.

Un o’r blaenoriaethau yw sicrhau bod ardaloedd a phoblogaethau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn aml iawn yn cael cyfle i gyfrannu eu barn.

‘Amharhaol’

Mae Sam Ward, Rheolwr Ymgyrchoedd Climate Cymru, yn galw ar weinidogion i fod yn “feiddgar” a dangos arweinyddiaeth yn y gynhadledd.

“Mae’r galon iâ fydd yn y digwyddiad yn brydferth, ac yn rhywbeth dros dro,” meddai.

“Bydd hi’n toddi’n fuan. Mae ein hamser ni i gael cyfle i weithredu er mwyn amddiffyn y pethau rydyn ni’n eu caru yn amharhaol ac yn gwibio heibio hefyd.

“Mewn ychydig wythnosau, bydd arweinwyr y byd yn cyrraedd Glasgow ar gyfer Trafodaethau Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

“Dyma ein neges i weinidogion Cymru a’r Deyrnas Unedig fydd yn mynychu COP26: byddwch yn feiddgar, dangoswch arweinyddiaeth, gwthiwch am weithredu pendant ac amserol, ysbrydolwch, a deffrwch eraill ar lwyfan y byd.

“Mae yna ymchwydd o gefnogaeth gan y cyhoedd, sydd eisiau newid gwirioneddol, tu ôl i chi.

“O bob congl yng Nghymru, o bob llwybr bywyd, mae miloedd o bobol a channoedd o sefydliadau wedi dweud eu dweud.

“Maen nhw eisiau’r un peth. Maen nhw eisiau gweithredu gan ein harweinwyr er mwyn amddiffyn yr hyn maen nhw’n ei garu, a chreu dyfodol gwell i ni gyd.”

‘Symud yn sydyn’

Ychwanegodd Mari McNeill, cadeirydd Stop Climate Chaos Cymru, fod y lleisiau sydd wedi’u casglu gan Climate Cymru yn “dangos bod yna gefnogaeth gyhoeddus wirioneddol” am weithredu “pendant” dros newid hinsawdd yng Nghymru.

“Rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i ymateb i’r her a chyhoeddi cynllun net-sero uchelgeisiol sy’n cyd-fynd â gwyddoniaeth yr hinsawdd ac egwyddorion ynghylch cyfrifoldeb a chyfiawnder,” meddai.

“Gadewch i ni beidio gwastraffu’r cyfle hanfodol hwn i weithredu ac amddiffyn yr hyn rydyn ni’n ei garu.

“Mae yna gymaint o bethau mewn perygl: ein bywydau ac ein bywoliaethau yma yng Nghymru, dyfodol bioamrywiaeth gyfoethog y ddaear frau hon, a dyfodol y rhai sy’n cael eu heffeithio waethaf gan yr argyfwng hinsawdd yng ngwledydd tlotaf y bydd – y rhai sy’n gwneud y lleiaf i’w achosi.

“Allwn ni ddim datrys y broblem os ydyn ni’n cyffwrdd â’r wyneb.

“Er enghraifft, mae ein targedau allyriadau dal allan o drefn gyda gwyddoniaeth yr hinsawdd.

“Rydyn ni angen cyflymu ar frys, a symud yn sydyn, tuag at y nod o gyrraedd allyriadau sero-net er mwyn achub bywydau, bywoliaethau, ac ein hecosystem fregus.”

Bydd y negeseuon yn cael eu danfon i’r Senedd rhwng 12yh a 1:30yh fory, ac wedyn bydd llysgenhadon Climate Cymru ar gael i siarad â’r cyhoedd am yr ymgyrch ger y galon iâ rhwng 1:30 ac 8yh.