Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd B4310 yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ychydig wedi 1:05yp ddoe (dydd Sul, Hydref 18), ar y ffordd rhwng Drefach a Phorthyrhyd.

Bu farw’r gyrrwr beic yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu’n derbyn cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.

Does dim rhagor o fanylion am y gyrrwr ar hyn o bryd.

Datganiad

“Rydyn ni’n ymchwilio i wrthdrawiad ffordd rhwng dau gerbyd a ddigwyddodd tua 1.05yh ddydd Sul 18 Hydref 2021, ar y ffordd B4310 Drefach i Borthyrhyd,” meddai Heddlu Dyfed-Powys mewn datganiad.

“Ford Kuga arian a beic modur Yamaha oedd y cerbydau a fu’n rhan o’r gwrthdrawiad.

“Yn anffodus bu farw’r dyn a oedd yn gyrru’r beic modur yn y fan a’r lle.

“Mae ei berthnasau agosaf yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.