Mae Cyngor Ynys Môn wedi croesawu addewid Llywodraeth Prydain i sicrhau pŵer fforddiadwy, glân a dibynadwy i gartrefi a busnesau erbyn 2035.

Maen nhw’n dweud y bydd y cynlluniau yn caniatáu i ddatblygiadau ynni newydd gael eu blaenoriaethu, yn enwedig ar safle Wylfa yng ngogledd yr ynys.

Daw hyn ar ôl i Kwasi Kwarteng, Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan, ddatgelu cynlluniau’r adran ar gyfer system drydan carbon isel.

Bydd y cynlluniau hynny yn canolbwyntio ar adeiladu sector ynni diogel, gan gynnwys technolegau gwyrdd fel ynni gwynt môr a niwclear, i leihau’r defnydd o danwydd ffosil.

‘Newyddion da i safle Wylfa’

Yn ôl Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, mae addewid y Llywodraeth i symud eu hymrwymiad ymlaen 15 mlynedd yn “newyddion cadarnhaol iawn,” yn enwedig wrth ystyried safle Wylfa ar yr ynys.

“Os yw’r cynlluniau hyn yn mynd i gael eu gwireddu, rhaid i brosiectau niwclear newydd chwarae rôl sylweddol yn hynny,” meddai.

“Mae hyn yn newyddion da i safle Wylfa yn Ynys Môn, gan mai hwn, fel y gwyddwn, yw’r safle gorau ar gyfer datblygu yn y Deyrnas Unedig.

“Mae’r Ynys wedi dangos ei chefnogaeth ar gyfer datblygiad newydd ar safle’r Wylfa am nifer o flynyddoedd; ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan er mwyn darparu cynhyrchiad ynni glân a dibynadwy.

“Byddai datblygiad safle Wylfa yn alinio â gweledigaeth Rhaglen Ynys Ynni’r Cyngor, sydd â’r nod o greu cyfleoedd am swyddi, twf economaidd a ffyniant.

“Byddai’r cyfleoedd hyn yn elwa pobl a busnesau ar yr Ynys a ledled gogledd Cymru.”

‘Siomi gormod o weithiau’

Bydd Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi manylion pellach y cynlluniau ynglŷn â’u strategaeth sero-net yn y cyfamser, wrth i’r wlad baratoi i groesawu uwchgynhadledd hinsawdd COP26 yng Nglasgow ar Hydref 31.

Fe ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sy’n gyfrifol am bortffolio Economi a Phrosiectau Mawr y Cyngor, fod rhaid blaenoriaethu datblygiad ynni ar safle Wylfa.

“Mae trigolion Ynys Môn wedi cael eu siomi gormod o weithiau,” meddai.

“Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif, mae rhaid i ni weld yr arian sydd ei angen er mwyn cyflymu datblygiadau ynni newydd a sicrhau bod datblygiad niwclear yn mynd ymlaen ar safle’r Wylfa.

“Mae cynnwys cyllid ar gyfer y cam cyn-ddatblygu yn yr Adolygiad Cynhwysfawr ar Wariant ddiwedd y mis hwn yn hanfodol a hynny o ran y gallu i gyflawni sero-net ac adfywio economi Ynys Môn yn yr hirdymor.”

Byddai Cyngor Ynys Môn yn croesawu datblygiadau niwclear ar safle Wylfa

Daw hyn wedi i’r Telegraph gyhoeddi bod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cyllid ar gyfer pwerdy niwclear newydd cyn etholiad 2024