Byddai Cyngor Ynys Môn yn croesawu datblygu safle Wylfa ac yn ôl yr arweinydd, mae’n rhaid i brosiectau niwclear newydd fod yn rhan o gynlluniau ynni’r Deyrnas Unedig.

Daw sylwadau’r Cynghorydd Llinos Medi wrth i’r Cyngor groesawu addewid Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau pŵer fforddiadwy, glân a dibynadwy erbyn 2035.

Mae Boris Johnson eisiau i Brydain gefnu ar ddefnyddio nwy a thanwydd ffosil erbyn 2035 – ac mae prif weinidog Prydain yn dweud bod codi atomfa newydd ym Môn yn cael ei ystyried fel rhan o’r ateb i argyfwng ynni Prydain.

Fe wnaeth y Telegraph ddatgelu neithiwr (nos Sul, Hydref 17) fod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cyllid ar gyfer pwerdy niwclear newydd cyn etholiad cyffredinol 2024.

Mae’r Telegraph ar ddeall y bydd addewid i ariannu pwerdy newydd yn ystod y tymor seneddol hwn yn cael ei gynnwys yn strategaeth sero-net y Deyrnas Unedig, ac mae disgwyl i’r strategaeth gael ei gyhoeddi cyn uwchgynhadledd hinsawdd COP26.

Sizewell C, pwerdy niwclear sy’n cael ei gynnig gan EDF yn Suffolk, yw’r ceffyl blaen yn y ras ar gyfer cael y cyllid, yn ôl adroddiadau’r papur.

‘Newyddion da’

Mae addewid Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod â’i ymrwymiad i ddatblygu system bŵer wedi’i datgarboneiddio’n llawn ymlaen 15 mlynedd yn “newyddion cadarnhaol iawn,” meddai Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn.

“Os yw’r cynlluniau hyn yn mynd i gael eu gwireddu, rhaid i brosiectau niwclear newydd chwarae rôl sylweddol yn hynny,” meddai.

“Mae hyn yn newyddion da i safle Wylfa yn Ynys Môn, gan mai hwn fel y gwyddwn, yw’r safle gorau ar gyfer datblygu yn y Deyrnas Unedig.

“Mae’r Ynys wedi dangos ei chefnogaeth ar gyfer datblygiad newydd ar safle’r Wylfa am nifer o flynyddoedd; ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan er mwyn darparu cynhyrchiad ynni glân a dibynadwy.

“Byddai datblygiad safle Wylfa yn alinio â gweledigaeth Rhaglen Ynys Ynni’r Cyngor, sydd â’r nod o greu cyfleoedd am swyddi, twf economaidd a ffyniant.

“Byddai’r cyfleoedd hyn yn elwa pobl a busnesau ar yr Ynys a ledled gogledd Cymru.”

Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Môn, wedi dweud bod gan gwmnïau o’r Unol Daleithiau, sef Betchel a Westinghouse, ddiddordeb yn safle Wylfa, a bod Llysgennad yr Unol Daleithiau am ymweld â’r safle.

Yr wythnos ddiwethaf, fe fu mudiad Pobol Atal Wylfa B, yn rhybuddio’r Llysgennad am beryglon Wylfa Newydd, gan ddweud eu bod nhw’n gwrthwynebu “hil-laddiad ddiwylliannol” o’r fath.

Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd

Mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymeradwyo cyllid i Rolls Royce adeiladu Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd hefyd.

Mae consortiwm sy’n cael ei harwain gan Rolls Royce wedi sicrhau £210 miliwn gan fuddsoddwyr preifat ar gyfer yr adweithyddion (small modular reactors, SMR), ac mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyfrannu hefyd.

Dros yr haf, cafodd yr Americanwr Mike Tynan ei benodi’n brif weithredwr Cwmni Egino, sef cwmni a gafodd ei greu gan Lywodraeth Cymru i barhau â gweithgarwch niwclear yn Nhrawsfynydd.

Mae gwaith datgomisiynu ar y gweill ar y safle yn Nhrawsfynydd ers y 90au, ond yn ôl y Financial Times, bydd Mike Tynan a Cwmni Egino’n archwilio’r manteision economaidd o osod Adweithydd Niwclear Bychan yno.

“Mae’n ffaith fod Rolls Royce yn gofyn am gymhorthdal cyhoeddus enfawr i wireddu eu huchelgais niwclear,” meddai mudiad PAWB a CADNO ar y cyd.

“Mae’r symudiad hwn at godi adweithyddion i gynhyrchu trydan yn perthyn yn agos iawn i’w dymuniad i ddiogelu sgiliau yn yr adweithyddion maen nhw’n eu darparu i longau tanfor sy’n cludo arfau niwclear. Mae niwclear sifil a milwrol yn ddwy ochr o’r un geiniog.”

Cafodd technoleg SMR eu datblygu yn y 50au ar gyfer eu defnyddio mewn llongau tanfor niwclear.

“Mae Rolls Royce yn honni yr hoffent godi 18 adweithydd SMR,” meddai’r ymgyrchwyr.

“Pa mor bell fydd y llywodraeth yn barod i fynd i gyllido technoleg sydd ddim yn newydd o bell ffordd ac sydd fel yr adweithyddion niwclear mawr yn agored i ddamweiniau a gollyngiadau o ymbelydredd, ac yn cynhyrchu gwastraff ymbelydrol gwenwynig a marwol.”

‘Budr a pheryglus’

Mae Boris Johnson a’i weinidogion yn “methu’r pwynt yn llwyr wrth lynu at fawredd ymerodraethol y gorffennol trwy hyrwyddo niwclear”, yn ôl CADNO a PAWB.

“Mae ynni niwclear yn fudr, peryglus, eithriadol o ddrud, ac yn fygythiad i iechyd amgylcheddol a dynol,” medden nhw.

“Ni fydd ynni niwclear yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni presennol, nac yn effeithiol i wrthweithio effeithiau newid hinsawdd.

“Allwn ni ddim fforddio gwastraffu’r arian enfawr i godi gorsafoedd niwclear, ac yn sicr allwn ni ddim fforddio gwastraffu’r pymtheng mlynedd fyddai’n angenrheidiol i adeiladu gorsafoedd niwclear mawr newydd.  

“Mae angen atebion i’r argyfyngau ynni a hinsawdd yn awr. Mae’r atebion hynny ar gael yn seiliedig ar raglen gynhwysfawr o ddatblygu technolegau adnewyddadwy ac arbed ynni.

“Bydd pob punt a wastreffir ar ynni niwclear yn bunt fydd yn cael ei thynnu oddi wrth atebion cyflymach a mwy effeithiol ynni adnewyddadwy ac arbed ynni.”

Cyngor Ynys Môn yn croesawu addewid trydan glân Llywodraeth Prydain

Maen nhw’n credu y bydd hynny’n hwb i ddatblygiadau ynni newydd ar yr ynys, yn enwedig ar safle’r Wylfa

Rhybuddio Llysgennad yr Unol Daleithiau am beryglon Wylfa Newydd

“Gwrthwynebwn yr hil-laddiad diwylliannol fyddai’n digwydd o ganlyniad i’r fath brosiect enfawr,” meddai mudiad gwrth-niwclear PAWB

Cwmnïau o America “yn awyddus iawn” i fuddsoddi yn Wylfa Newydd

Barry Thomas a Huw Bebb

“Rydan ni yn edrych ar Wylfa yn ogystal â nifer o brosiectau eraill,” meddai Boris Johnson