Mae mudiad gwrth-niwclear PAWB wedi rhybuddio Llysgennad yr Unol Daleithiau yn Llundain am beryglon Wylfa Newydd ar Ynys Môn.

Mewn llythyr at Philip T. Reeker, mae’r mudiad yn amlinellu pryderon ynghylch unrhyw ddatblygiadau niwclear pellach ar y safle ar Ynys Môn.

Mae Boris Johnson eisiau i Brydain gefnu ar ddefnyddio nwy a thanwydd ffosil erbyn 2035 – ac mae’r Prif Weinidog yn dweud bod codi atomfa newydd ym Môn yn cael ei ystyried fel rhan o’r ateb i argyfwng ynni Prydain.

Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Môn, wedi dweud bod gan gwmnïau o’r Unol Daleithiau, sef Betchel a Westinghouse, ddiddordeb yn y safle, a bod Llysgennad yr Unol Daleithiau am ymweld â’r safle.

Yn y llythyr, mae PAWB yn cyfeirio at bryderon amgylcheddol, anaddasrwydd y safle, yr angen i droi at ynni adnewyddadwy, a phryderon ynghylch yr iaith a diwylliant Cymraeg – gan ddweud eu bod nhw’n gwrthwynebu’r “hil-laddiad diwylliannol fyddai’n digwydd o ganlyniad i’r fath brosiect enfawr”.

Cefndir

Daeth oes y ddau adweithydd niwclear gwreiddiol ar y safle i ben yn 2015, a “bydd y safle’n parhau yn beryglus am gyfnod maith iawn”, meddai’r llythyr gan grŵp PAWB (Pobol Atal Wylfa B).

Nid ydyn nhw’n croesawu prosiect niwclear arall a fyddai’n “tarfu’n ddifrifol ar ecoleg yr ardal arfordirol hyfryd hon ac yn ychwanegu peryglon niwclear ar ffurf damwain adweithydd heb ei ragweld a phentyrru gwastraffu ymbelydrol gwenwynig ar y safle”.

Gwrthododd Arolygwyr Cynllunio’r Deyrnas Unedig gais cynllunio Horizon i godi dau adweithydd Hitachi ar y safle, a hynny am sawl rheswm:

  • Byddai’r mewnlifiad o weithwyr yn ystod adeiladu “hyd yn oed gyda’r lliniaru arfaethedig, yn cael effaith niweidiol ar dwristiaeth, yr economi leol, iechyd a llesiant, a’r iaith a diwylliant Cymraeg”.
  • Yr effaith ar y stoc dai.
  • Methodd y cais cynllunio ag ateb safonau bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig, a chododd yr arolygwyr bryderon am yr effaith ar Fae Cemlyn, a dau safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o fewn y tir a brynwyd gan Hitachi.
  • Methodd y cais cynllunio brofion ar fioamrywiaeth, ecoleg a chadwraeth natur.

Yn ôl PAWB, mae’r tir dan berchnogaeth Hitachi yn  Wylfa “yn bell o fod yn safle niwclear delfrydol”.

“I’r gwrthwyneb yn llwyr. Byddai unrhyw ymdrech gan Bechtel/Westinghouse i ddatblygu adweithydd mawr fel yr AP1000 yn wynebu’r un problemau â chynigion Horizon.”

Noda’r llythyr eu bod nhw’n ymwybodol o ddiffygion adweithydd AP1000, a bod gorwario ar yr adweithydd yn yr Unol Daleithiau wedi arwain at gwmni Toshiba Westinghouse i fynd i’r wal.

“Ysgrifen ar y wal”

“Mae’r World Nuclear Industry Status Report a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn tanlinellu pa mor ddiangen mae ynni niwclear i anghenion byd-eang,” meddai’r llythyr gan PAWB.

“Mae fflyd o adweithyddion sy’n heneiddio yn broblem enfawr, yn amgylcheddol ac yn ariannol. Yn hanesyddol, mae cost dadgomisiynu wedi cael ei guddio mewn cynhyrchu parhaus – gan gynhyrchu, wrth reswm, mwy fyth o wastraff ymbelydrol.

“Yn awr oherwydd y costau a pheryglon enfawr ynghylch gorsafoedd niwclear, mae trydan a gynhyrchwyd o niwclear wedi suddo i gyfran o 4% o gynhyrchu trydan masnachol yn fyd-eang.

“Yn y cyfamser, cyrhaeddodd ynni adnewyddadwy 29% o gynhyrchu trydan byd-eang yn 2020, sy’n torri record.

“Wrth i adweithyddion gau, nid yw ynni niwclear yn ddiwydiant hyfyw. Mae angen i gychwyn adeiladu adweithyddion fod yn hafal i’r rhai sy’n cau er mwyn i’r diwydiant gynnal y patrwm 30 mlynedd o fod yn yr unfan.

“Mae hynny’n golygu dechrau adeiladu deg adweithydd y flwyddyn i wneud yn iawn am y deg adweithydd y flwyddyn y rhagwelir y bydd yn cau bob blwyddyn dros y deng mlynedd ar hugain nesaf.

“Hyd yn oed yn China, yr unig wlad yn y byd i gychwyn nifer o brosiectau niwclear ddegawd yn ôl, mae’r sector adnewyddadwy yn ennill tir yn gyflym iawn.

“Mae’r ysgrifen ar y wal yn glir i’r diwydiant niwclear. Mae hi ar ben.”

“Hil-laddiad diwylliannol”

Yn olaf, mae’r grŵp yn tanlinellu bod 60% o boblogaeth Môn yn medru’r Gymraeg, a bod adeiladu’r Wylfa wreiddiol yn ail hanner y 1960au wedi dangos gostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg yng ngogledd a dwyrain Môn.

“Mae’n arwyddocaol fod yr Arolygwyr Cynllunio wedi cydnabod yr effaith enfawr y byddai 10,000 o weithwyr adeiladu ar gyfer prosiect Horizon wedi cael ar yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau.

“Byddai prosiect AP1000 yn golygu rhifau tebyg. Mae’n treftadaeth ieithyddol a diwylliannol yn golygu bod gan safle’r Wylfa ddimensiwn cwbl wahanol i safleoedd niwclear yn Lloegr.

“Rydym yn freintiedig i fod yn rhan o’r diwylliant a hunaniaeth ieithyddol honno, ac fe wrthwynebwn yr hil-laddiad diwylliannol fyddai’n digwydd o ganlyniad i’r fath brosiect enfawr.”

Cwmnïau o America “yn awyddus iawn” i fuddsoddi yn Wylfa Newydd

Barry Thomas a Huw Bebb

“Rydan ni yn edrych ar Wylfa yn ogystal â nifer o brosiectau eraill,” meddai Boris Johnson