Bydd cabinet Cyngor Powys yn derbyn adroddiad yn trafod statws ieithyddol Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth mewn cyfarfod heddiw (Dydd Mawrth, 12 Hydref),
Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn cynnig dwy ffrwd – un Gymraeg ac un Saesneg, ond fe benderfynodd y Cabinet newid yr ysgol yn un cyfrwng Cymraeg yn unig.
Byddai’r newid yn golygu mai dyma fyddai’r ysgol gydol oes cyfrwng Cymraeg cyntaf ym Mhowys, sydd â bwriad i wella mynediad at ddarpariaeth addysg Gymraeg i bob oedran.
Yn dilyn cyfnod ymgynghori, fe gafodd adroddiad ei llunio yn dangos y gwrthwynebiad i’r penderfyniad gan y Cabinet.
Fe gafodd deiseb yn erbyn y cynlluniau ei harwyddo gan 1,219 o bobol, o gymharu â 278 a arwyddodd ddeiseb o blaid.
Mae Cyngor Tref Machynlleth hefyd wedi anfon llythyr at Gyngor Sir Powys yn mynegi eu gwrthwynebiad i benderfyniad cabinet y Cyngor i newid iaith yr ysgol gydol oes.
Er y gwrthwynebiadau ar bapur, dim ond tri phlentyn allan o 15 sydd wedi mynd i mewn i’r ffrwd Saesneg yn y cyfnod sylfaen eleni.
Mae’r Cabinet yn argymell parhau â’r cynlluniau i newid statws yr ysgol cyn y cyfarfod heddiw (12 Hydref).
“Ffeithiau nid ofnau”
Mae aelod o Gyngor Powys yn nalgylch yr ysgol, Elwyn Vaughan, wedi cefnogi’r cynlluniau ers iddyn nhw gael eu crybwyll gyntaf.
“Pryd bynnag y cynigir unrhyw newidiadau, mae’n anochel bod rhai yn gwrthwynebu newidiadau o’r fath,” meddai, wrth ddadlau pam y dylai’r Cyngor llawn gymeradwyo’r cynllun ddydd Mawrth.
“Mae hynny’n ddealladwy. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar ffeithiau ac nid ofnau.
“Yr wyf am ei gwneud yn glir, nid rhyw agenda wleidyddol yw hwn gan fod rhai’n ceisio cyfeirio ato felly.
“Y gwir amdani yw mai agenda Llywodraeth Lafur Cymru, a gafodd ei gyflwyno gan Weinidog addysg y Democratiaid Rhyddfrydol oedd hyn pan ddechreuodd, gyda Chabinet Cyngor Powys sy’n cael ei redeg gan grwpiau annibynol a’r Ceidwadwyr ac nid wyf yn aelod o’r un ohonynt.
“Fodd bynnag, gadewch imi fod yn glir hefyd, rwy’n credu mewn dwyieithrwydd, credaf y dylai ein holl bobol ifanc gael eu trin yn gyfartal, cael yr un cyfleoedd, cael sail gadarn ar gyfer y dyfodol, cael y cyfle i sgwrsio â’u cymdogion, cael y gallu i agor eu llygaid i fyd eang lle mae amrywiaeth ieithoedd a diwylliannau yn norm, y gallu i barchu a deall amrywiaeth yr hil ddynol.
“Mae dwyieithrwydd yn darparu’r sail i ddysgu ieithoedd eraill a dod yn wirioneddol amlieithog – sy’n ased pwysig ar gyfer y dyfodol.
“Yr hyn a wyddom yw mai’r model addysg arfaethedig fel yr argymhellwyd ar gyfer Hyddgen yw’r fformat gorau ar gyfer sicrhau gwir ddwyieithrwydd, ac mae wedi’i ddogfennu’n dda yn rhyngwladol, mai dysgu ieithoedd o oedran cynnar fel y’i cynigiwyd o’r cyfnod sylfaen, yw’r ffordd orau o ddysgu.
“Dyna pam y mae gan ysgolion statws cyfrwng Cymraeg, fel y’u cynigiwyd, ymhlith y sgiliau dwyieithog gorau yn unman yn Ewrop.
“Nid oes rheswm rhesymegol felly pam na all hyn fod yr un mor llwyddiannus a naturiol ym Machynlleth.”
“Cynhwysiant nid gwaharddiad”
“Nawr ni ddylid ystyried y mater hwn yn beth Cymraeg v Saesneg, na nhw yn erbyn ni; ac rwy’n gresynu at y rhai sy’n ceisio ei wneud o’r fath,” ychwanegodd Elwyn Vaughan.
“Mae’n fater o gynhwysiant nid gwaharddiad; mae’n sicrhau tegwch i’r rhai yn y ffrwd Saesneg sydd bellach yn gorfod bod mewn dosbarthiadau aml-flwyddyn mawr; mae’n ymwneud â chydraddoldeb y ddarpariaeth sgiliau; dylid ei ystyried yn fater o sicrhau’r addysg orau bosibl i’n holl bobol ifanc, er mwyn galluogi cenedlaethau’r dyfodol i ennill y sgiliau ar gyfer yr 21ain Ganrif, ar gyfer meithrin gallu ein pobol ifanc, i sicrhau eu potensial mwyaf a sicrhau y gallant chwarae rhan lawn mewn cymdeithas ddwyieithog a byd amlieithog.
“Dyna ddylai fod yn ffocws i ni.”