Fe fydd y rhan fwyaf o’r bobl sy’n gymwys am frechlyn atgyfnerthu yn cael ei gynnig erbyn 31 Rhagfyr 2021, mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, wedi cadarnhau.

Yn ôl diweddariad i’r Strategaeth Frechu, bydd pob person 12 i 15 oed wedi cael cynnig un dos o’r brechlyn erbyn 1 Tachwedd.

Fe fydd brechiad atgyfnerthu wedi cael ei gynnig i breswylwyr cartrefi gofal a staff iechyd a gofal erbyn diwrnod cyntaf Tachwedd hefyd.

Bydd pob person yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 yn cael eu gwahodd i gael brechiad atgyfnerthu o leiaf chwe mis wedi iddyn nhw gael eu dos diwethaf.

Fel o’r blaen, bydd llythyrau’n cael eu hanfon yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd ac mae gofyn i bobol beidio â chysylltu â’u meddyg teulu.

Bydd unigolion sydd â system imiwnedd wan yn cael eu blaenoriaethu i gael apwyntiad brys sy’n gyfleus iddyn nhw, yn seiliedig ar y driniaeth maen nhw’n ei derbyn a chyngor eu clinigydd.

“Gaeaf hynod anodd”

Fe fydd y “gaeaf hwn yn hynod o anodd i’n gwasanaeth iechyd”, meddai Eluned Morgan, ac mae’n “hanfodol bwysig” bod pobol yn manteisio ar frechlynnau Covid-19 a’r ffliw, os ydyn nhw’n gymwys.

“Mae brechiadau ar gyfer y coronafeirws yn effeithiol iawn. Amcangyfrifir, ar ôl i unigolyn gael ail ddos, y bydd ei lefel amddiffyniad rhag cael ei dderbyn i’r ysbyty tua 95%,” meddai Eluned Morgan.

“Bydd unigolion hefyd yn cael eu hamddiffyn rhag cymhlethdodau difrifol os byddan nhw’n cael eu brechu rhag y ffliw.

“Os ydyn nhw’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu Covid-19 neu beidio, rydw i’n annog pob unigolyn sy’n gymwys i gael ei frechu rhag y ffliw.

“Hyd yma, rydyn ni wedi rhoi mwy na 4.6 miliwn o frechiadau Covid-19 ac mae 85 y cant o’r boblogaeth dros 16 oed wedi cael eu brechu’n llawn.

“Nid oes unrhyw bryder ynghylch cyflenwadau unrhyw un o’r brechlynnau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cynigion i barhau i amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ogystal â’r Gwasanaeth Iechyd.”

Mae’r strategaeth hefyd yn nodi bod system archebu ddigidol yn cael ei datblygu i alluogi i bobol drefnu apwyntiadau ar-lein.

Bydd apwyntiadau yn dal i fod ar gael ar gyfer dosau cyntaf o frechlyn Covid-19 i unrhyw un sydd heb ei frechu.

Fe fydd manteision cynnig brechiadau atgyfnerthu i oedolion ifanc yn cael eu hystyried pan fydd rhagor o wybodaeth, meddai Llywodraeth Cymru.