Fe wnaeth methiannau ac oedi difrifol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac ymgynghorwyr gwyddonol arwain at farwolaethau yn ystod y pandemig, yn ôl adroddiad damniol gan bwyllgorau o Aelodau Seneddol.

Yn ôl yr astudiaeth gan Bwyllgorau trawsbleidiol Gwyddoniaeth a Thechnoleg, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roedd paratoadau’r Deyrnas Unedig at gyfer y pandemig yn canolbwyntio gormod o lawer ar y ffliw.

Fe wnaeth gweinidogion aros yn rhy hir i ddechrau cyflwyno mesurau’r cyfnod clo ar ddechrau 2020 hefyd, meddai’r adroddiad.

Dywedodd Aelodau Seneddol bod y cynlluniau tuag at y pandemig “wedi’i seilio’n rhy anhyblyg a chul ar fodel ffliw” a oedd wedi methu â dysgu gwersi gan Sars, Mers ac Ebola.

“Anghywir”

Dywedodd cyn-brif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig, yr Athro Sally Davies, wrth Aelodau Seneddol bod arbenigwyr afiechydon heintus yn credu na fyddai “Sars, neu Sars arall, yn cyrraedd ni o Asia”.

Yn ôl graddfa risg y Deyrnas Unedig, a oedd mewn lle ar ddechrau’r pandemig, roedd “y tebygolrwydd y byddai afiechyd newydd heintus yn lledaenu o fewn y Deyrnas Unedig yn is nag ar gyfer pandemig ffliw, yn ôl asesiadau”.

Dywedodd y raddfa risg mai dim ond hyd at 100 o bobol allai farw pe bai unrhyw afiechyd heintus newydd yn lledaenu yn y Deyrnas Unedig.

Unwaith ddaeth Covid-19 i’r amlwg yn China, dywedodd Aelodau Seneddol mai polisi’r Deyrnas Unedig oedd “ymateb yn raddol a chynyddol” wrth gyflwyno mesurau megis ymbellhau cymdeithasol, hunanynysu a chyfnodau clo.

Roedd hyn yn “bolisi bwriadol” a gafodd ei gynnig gan wyddonwyr a’i fabwysiadau gan lywodraethau’r Deyrnas Unedig, meddai’r adroddiad, ond nawr mae posib gweld ei fod yn “anghywir” ac wedi arwain at fwy o farwolaethau.

Dywedodd yr Aelodau Seneddol bod “penderfyniadau ynghylch cyfnodau clo ac ymbellhau cymdeithasol yn ystod wythnosau cynnar y pandemig – a’r cyngor a arweiniodd at hynny – yn cael eu rhestru fel un o’r methiannau iechyd cyhoeddus gwaethaf erioed yn y Deyrnas Unedig”.

“Syfrdanol”

Wrth drafod imiwnedd torfol, ychwanegodd yr Aelodau Seneddol nad oedd hynny’n strategaeth swyddogol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth arbenigwyr a gweinidogion drio “arafu cyflymder yr heintiadau” yn hytrach na thrio ei atal rhag lledaenu.

Mor hwyr â 12 Mawrth 2020, dywedodd Syr Patrick Vallance, prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ei bod hi’n amhosib stopio pawb rhag cael eu heintio.

Ddiwrnod yn ddiweddarach, dywedodd aelodau grŵp ymgynghorol Sage eu bod nhw’n “cytuno’n unfrydol y byddai mesurau sy’n ceisio atal lledaeniad Covid-19 yn gyfan gwbl yn achosi ail don”.

Ar ôl clywed gan bobol fel cyn-ymgynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings a’r cyn-ysgrifennydd iechyd, Matt Hancock, daeth Aelodau Seneddol i’r casgliad mai dim ond yn yr ychydig ddyddiau cyn 23 Mawrth y gwnaeth gweinidogion a chynghorwyr sylwi “bod y llwybr yr oedd y Deyrnas Unedig yn ei ddilyn yn anghywir, mewn ffordd drychinebus, o bosib”.

Dywedodd yr Aelodau Seneddol ei bod hi’n “syfrdanol” ei bod hi wedi cymryd mor hir i Sage ddweud bod angen cyfnod clo llawn, ac i’r Llywodraeth gyflwyno un.

“Diffygion”

Mae’r adroddiad 151 tudalen hefyd yn nodi bod mesurau wrth y ffiniau wedi’u cyflwyno ar gyfer gwledydd â chyfraddau uchel o Covid yn unig, er bod 33% o’r achosion yn ystod y don gyntaf wedi’u cyflwyno o Sbaen, a 29% wedi’u cyflwyno o Ffrainc.

Maen nhw hefyd yn dadlau y byddai mesurau ymbellhau cymdeithasol neu gloi cynharach “wedi rhoi amser mawr ei angen” i ddechrau ymchwilio i frechlynnau, datblygu triniaethau Covid, a sefydlu system brofi ac olrhain addas.

Fe wnaeth “wythnosau cynnar y pandemig amlygu diffygion yn y cyngor gwyddonol a gweithredu’r Llywodraeth”, gyda dim syniad ynglŷn â sut oedd y feirws wedi lledaenu a dim digon o ystyriaeth i rôl lledaeniad asymptomatig.

Roedd yna gred anghywir na fyddai’r cyhoedd yn derbyn cyfnod clo, neu mai dim ond am gyfnod byr y bydden nhw’n ei dderbyn hefyd.

Fe wnaeth diffyg capasiti profi olygu nad oedd yna ddigon o wybodaeth am ledaeniad Covid o bell ffordd, ac roedd y penderfyniad i stopio profi yn y gymuned ar 12 Mawrth yn “fethiant anferth”.

Ychwanegodd yr adroddiad bod y penderfyniad i beidio profi pobol oedd yn cael eu symud o ysbytai i gartrefi gofal ar ddechrau’r pandemig yn fethiant a arweiniodd at farwolaethau.

“Rhai camgymeriadau mawr”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr Aelodau Seneddol Torïaidd Greg Clark a Jeremy Hunt, cadeiryddion y pwyllgorau: “Fe wnaeth ymateb y Deyrnas Unedig gyfuno rhai llwyddiannau mawr â rhai camgymeriadau mawr.

“Mae’n hanfodol dysgu gan y ddau er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud y gorau allwn ni yn ystod gweddill y pandemig ac yn y dyfodol.

“Cafodd ein rhaglen frechu ei chynllunio’n llwyddiannus a’i gweithredu’n effeithlon. Cymerodd y rhaglen profi ac olrhain ormod o amser i ddod yn effeithiol.

“Fe wnaeth y Llywodraeth gymryd cyngor gwyddonol o ddifrif ond dylai pawb wedi herio mwy ar y consensws oedd yn y Deyrnas Unedig,  a arweiniodd at oedi cyn cyflwyno cyfnod clo mwy cyflawn pan wnaeth gwledydd fel De Corea ddangos bod ymateb gwahanol yn bosib.”

O ran yr ail gyfnod clo, dywedodd Aelodau Seneddol y gallai cyflwyno mesurau ymbellhau cymdeithasol tynnach yn ystod hydref 2020 fod wedi “lleihau gafael amrywiolyn Alffa dros y wlad, arafu ei ledaeniad, ac felly achub bywydau”.

Fodd bynnag, fe wnaeth Aelodau Seneddol nodi ei bod hi’n wir na chafodd yr amrywiolyn Alffa ei adnabod nes mis Rhagfyr 2020.

Fe wnaeth “perfformiad araf, ansicr, ac anhrefnus, yn aml, y system brofi, olrhain, a hunanynysu effeithio’n ddifrifol negyddol ar ymateb y Deyrnas Unedig i’r pandemig”, meddai’r adroddiad.

Fe wnaethon nhw hefyd nodi bod “cyfraddau marwolaethau annerbyniol o uchel ymysg pobol o gymunedau du, Asaidd ac ethnig lleiafrifol”, ac ymysg pobol ag anghenion dysgu.

Derbyniodd triniaethau Covid yn y Deyrnas Unedig a’r rhaglen frechu ganmoliaeth yn yr adroddiad.

“Dysgu gwersi”

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Trwy gydol y pandemig rydyn ni wedi cael ein llywio gan arbenigwyr gwyddonol a meddygol a dydyn ni erioed wedi osgoi gweithredu’n sydyn a phendant er mwyn achub bywydau ac amddiffyn ein Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys cyflwyno cyfyngiadau a chyfnodau clo.

“Diolch i ymdrech genedlaethol ar y cyd, fe wnaethon ni osgoi llethu gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mae ein rhaglen frechu anhygoel wedi adeiladu wal o amddiffyniad, gan osgoi 24.3 miliwn o heintiadau ac achub mwy na 130,000 bywyd hyd yn hyn.

“Fel mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud, rydyn ni wedi ymrwymo i ddysgu gwersi gan y pandemig ac wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn yn y gwanwyn.”