Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gefnogi cynlluniau i roi miliynau o bunnoedd i helpu diwydiannau sydd wedi’u heffeithio gan y cynnydd mewn prisiau nwy.

Mae costau uchel ynni wedi arwain at bryderon y gallai busnesau gau eu ffatrïoedd neu fynd i’r wal ac mae’r Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng wedi gwneud cais ffurfiol i’r Trysorlys am gymorth i helpu busnesau dros y gaeaf.

Yn ôl adroddiadau yn The Times mae Boris Johnson wedi cefnogi rhoi cyfres o fenthyciadau gwerth miliynau o bunnoedd i fusnesau.

Mae’r papur newydd yn dweud y byddai cwmnïau sy’n wynebu gorfod cau yn cael benthyciadau er mwyn osgoi hynny dros y gaeaf, ac er mwyn atal colli miloedd o swyddi.

Fe fu Kwasi Kwarteng yn cynnal trafodaethau gydag arweinwyr busnes wythnos ddiwethaf ac mae disgwyl i weinidogion a swyddogion barhau gyda’u trafodaethau drwy gydol yr wythnos hon.

Mae wedi rhoi addewid i gadw’r cap ar brisiau ynni mewn lle er mwyn helpu aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd gyda chostau cynyddol.

Mae’n debyg mai diwydiannau cerameg, papur a dur sydd wedi’u heffeithio fwyaf.