Mae’n bosibl y bydd astudiaeth o gostau a dichonoldeb dod â phwll nofio awyr agored yn ôl i’r Fenni ddechrau cyn bo hir.

Mae gan Grŵp Lido’r Fenni gynlluniau i adeiladu pwll awyr agored poeth ym Mharc Bailey ac mae’n codi arian i gynnal astudiaeth ddichonoldeb.

Bydd cais am £1,000 o grant yn cael ei ystyried gan bwyllgor polisi ac adnoddau Cyngor Tref y Fenni’r wythnos hon.

Mae tua £8,000 eisoes wedi’i godi ar gyfer yr astudiaeth, a fydd yn costio tua £25,000.

Gobaith yr ymgyrchwyr yw derbyn canlyniad cais arall am gyllid mwy yn yr wythnosau nesaf, fyddai wedyn yn caniatáu i’r astudiaeth ddechrau.

Mae cais am grant y cyngor tref yn dweud bod “llawer iawn o frwdfrydedd” yn y gymuned ar gyfer y prosiect.

“Rydym wedi cynnal arolwg cyhoeddus a gwblhawyd gan 800+ o drigolion, ac mae 97 y cant ohonynt yn cefnogi’r prosiect,” meddai’r ymgyrchwyr yn y cais.

“Ar hyn o bryd y flaenoriaeth yw sefydlu dichonoldeb y prosiect.

“Unwaith y bydd hyn yn cael ei wneud, byddwn yn gweithio i sicrhau grantiau mwy gan gyllidwyr cyfalaf i gyflawni ein nod.”

Atgofion melys

Roedd y pwll gwreiddiol ar agor o 1938 nes iddo gau yn 1996, ac fe’i dymchwelwyd ddegawd yn ddiweddarach.

Dywedodd Jane Smith, ysgrifennydd Grŵp Lido y Fenni, fod gan lawer o bobl atgofion melys o ddefnyddio’r pwll.

“Ry’n ni jyst yn meddwl mai nawr yw’r amser i gael lido yn ôl yn Y Fenni,” meddai.

“Yr unig lido awyr agored arall yng Nghymru yw ym Mhontypridd.

“Mae’r Fenni yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ymhlith twristiaid a byddai hyn yn ychwanegu at atyniad y dref.

“Mae pobl wrth eu bodd yn nofio yn yr awyr agored y dyddiau hyn.

“Rydym yn credu y byddai’n hynod lwyddiannus a phoblogaidd.”

“Profiad hamdden unigryw”

Byddai’r astudiaeth ddichonoldeb yn asesu cynaliadwyedd economaidd y prosiect a’i gostau.

Byddai’r lido arfaethedig yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy ac yn cael ei adeiladu ar safle’r hen bwll ym Mharc Bailey, sydd bellach yn ddarn garw o dir.

Dywed ymgyrchwyr y byddai’n cynnig “profiad hamdden unigryw” i bobol yn Y Fenni, Sir Fynwy, De Ddwyrain Cymru a thu hwnt.

Mae cais am arian grant yn dweud y byddai’r lido hefyd yn darparu ffynhonnell newydd o gyflogaeth ac incwm i’r economi leol, tra’n dod â busnesau ychwanegol i siopau, bwytai a gwestai.

Yn flaenorol, rhoddodd Cyngor Sir Fynwy ganiatâd i’r grŵp Lido i gynnal gweithgareddau codi arian, fel gwneud cais am grantiau, ond dywedodd na fyddai’n gallu darparu cymorth ariannol pellach.

Dywedodd amcangyfrif blaenorol y byddai’n costio tua £7 miliwn i ailadeiladu’r pwll awyr agored.