Mae ymgyrchwyr wedi clymu eu hunain i gerflun o Boris Johnson wedi’i orchuddio mewn olew tu allan i Downing Street er mwyn gwrthwynebu maes olew newydd.

Mae Greenpeace yn galw ar Brif Weinidog y DU i beidio caniatáu rhagor o olew gael ei dyllu yn Cambo, sydd i’r gorllewin o Ynysoedd Shetland.

Roedd tua 40 o bobol yn rhan o’r brotest, ac mae rhai ohonyn nhw wedi’u clymu i gasgenni.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae’n rhaid i orddibyniaeth ar danwydd ffosil ddod i ben, ac mae’r cerflun 12 troedfedd yn cyfleu “neges na all y Prif Weinidog ei anwybyddu”.

Mae’r cerflun, sy’n pwyso 90kg ac wedi’i gerfio gan Hugo Farmer, yn dangos dwylo Boris Johnson wedi’u gorchuddio ag olew du.

Ar Twitter, mae cyn-Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi cymeradwyo’r ymgyrchwyr gan ddweud “da iawn”.

Mae’n ymddangos fel bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am barhau â’r cynlluniau, a fyddai yn ôl grŵp Stop Cambo, yn cynhyrchu 170 miliwn tunnell o olew a chynhyrchu’r un faint o allyriadau ag sy’n cael eu creu’n flynyddol gan 18 gorsaf bŵer lo.

Daw’r ymgyrch yn ystod argyfwng mewn prisiau olew yn y Deyrnas Unedig, a phroblemau byd-eang gyda’r gadwyn gyflenwi nwy.

“Gorddibyniaeth”

Yn ôl Stop Cambo, mae 80% o olew crai’r Deyrnas Unedig, sef yr hyn sy’n Cambo, yn cael ei allforio a’i werthu ar y farchnad ryngwladol.

Ni fyddai cynhyrchu’n dechrau yno am ychydig flynyddoedd, chwaith, felly ni fyddai hynny’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng presennol.

“Tra bod Boris Johnson ar wyliau yn Costa del Sol rydyn ni wedi danfon un yn ei le i Downing Street,” meddai Greenpeace ar Twitter.

“Cerflun ohono’n diferu mewn olew.

“Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog stopio maes olew Cambo – ni all y Deyrnas Unedig siarad am weithredu amgylcheddol a chaniatáu i dyllu newydd am olew fynd yn ei flaen.

“Mae gorddibyniaeth y llywodraeth ar danwydd ffosil wedi ein gadael ni’n agored i broblemau.”

Dywedodd Philip Evans, ymgyrchydd gwrth-olew gyda Greenpeace UK: “Mae methiannau Johnson i weithredu wedi gadael ni efo ciwiau i gael petrol, cwmnïau ynni’n mynd i’r wal, gweithwyr oddi ar y glannau’n ddi-waith am fisoedd heb stop, ac argyfwng hinsawdd sy’n gwaethygu.

“Rhaid i Johnson stopio Cambo, a blaenoriaethu newid cyfiawn tuag at ynni adnewyddadwy yn lle er mwyn amddiffyn defnyddwyr, gweithwyr a’r amgylchedd rhag ergydion yn y dyfodol.

“Os na fydd yn gwneud hynny, bydd yn cael ei gofio fel methiant amgylcheddol sylweddol.”

“Gweithio’n sydyn”

Dywedodd Heddlu’r Metropolitan bod ymgyrchwyr wedi clymu eu hunain i gasgenni gyda dyfeisiadau “cymhleth”, a’i bod hi’n cymryd amser i’w symud.

“Mae yna 16 ymgyrchydd wedi’u cloi i wyth casgen yn y brotest,” meddai’r llu.

“Bydd gan y casgenni hynny ddyfeisiadau cloi cymhleth tu mewn iddyn nhw, heb amheuaeth, ac mae’r ymgyrchwyr yn sownd iddyn nhw felly.

“Mae ein timau arbenigol yn gweithio’n sydyn i ddatgloi’r dyfeisiadau ac ailagor ffyrdd.”

Ym mis Tachwedd, bydd Boris Johnson ymuno ag arweinwyr eraill y byd yng Nglasgow yn Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig er mwyn trafod sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae cynlluniau Cambo wedi cael eu beirniadu gan sawl un, gan gynnwys Prif Weinidog yr Alban, sydd wedi galw ar Boris Johnson i “ailasesu’r” drwydded.