Mae gwefan newyddion Nation.Cymru wedi dioddef ymosodiadau seiber yn ddiweddar.

Maen nhw’n honni bod yr ymosodiadau hyn “wedi eu targedu,” gan bobol sydd “ddim eisiau cyfryngau Cymreig cenedlaethol ac annibynnol.”

Roedden nhw’n apelio ar eu dilynwyr i gyfrannu arian er mwyn “atgyfnerthu diogelwch,” fel bod hyn ddim yn parhau i ddigwydd yn y dyfodol.

“Hynod bryderus”

Roedd ambell un ar Twitter wedi ymateb i’r post gan wefan Nation.Cymru.

Dywedodd Owen Williams bod yr ymosodiadau yn “hynod bryderus,” gyda defnyddiwr arall – Wales@TheUnitedNations – yn dweud eu bod nhw wedi eu “harswydo a’u synnu” gan y newyddion.

Fe alwodd Steff Morris ar bobol i gefnogi’r wefan, gan ddyfynnu’r llinell: “Does ddim gyda ni pocedi dwfn iawn, ond mae gyda ni lot o bocedi!”

“Tystiolaeth?”

Ar y llaw arall, roedd rhai yn cwestiynu honiadau’r wefan mai pobol gwrth-gyfryngau Cymreig oedd ar fai.

Dywedodd Matthew MacKinnon ei fod “yn synnu eu bod nhw heb feio Rwsia neu Trump eto,” tra bod y defnyddiwr o dan yr enw Crap Cardiff yn awyddus i weld tystiolaeth y wefan tu ôl i’r honiadau.

Mae golwg360 wedi cysylltu â Nation.Cymru i ofyn am sylw.

Gwefan Nation.Cymru

Fe gafodd y wefan ddielw ei sefydlu yn 2017 gan y newyddiadurwr a’r darlithydd, Dr Ifan Morgan Jones, i geisio “cau’r diffyg democrataidd” yng Nghymru.

Ers ei lansio, maen nhw wedi cyhoeddi 5,000 o erthyglau a’n aml yn cyrraedd cynulleidfa o dros 700,000 o ddarllenwyr y mis.

Er hynny, mae’r wefan yn dibynnu ar roddion ariannol gan ddarllenwyr i dalu am y gwaith newyddiadurol a’r costau o redeg y wefan.