Mae ymgyrch wedi cael ei lansio i amlygu’r peryglon i bobol ifanc rhag gael eu denu i werthu cyffuriau.

Mae heddluoedd yng Nghymru yn pryderu am y niferoedd o bobol ifanc sy’n caeol eu targedu a’u meithrin i werthu cyffuriau gan gangiau tu draw i’w hardal nhw sef ar hyd county lines.

Mae elusen Crimestoppers wedi lansio ffilm addysgol i ddangos y peryglon i bobol ifanc.

Mae’r elusen yn cynnig ffyrdd o helpu pobol i adnabod y rhai sydd mewn perygl o gael eu meithrin er mwyn dod ynghlwm â gwerthu cyffuriau, ynghyd â’r trais rhywiol a chorfforol sy’n gysylltiedig.

Yn benodol, mae’r elusen yn poeni am ystadegau cenedlaethol sy’n dangos bod gangiau yn fwyfwy tebygol o dargedu merched i werthu cyffuriau.

Mae cynnydd mewn ‘cuckooing’ hefyd, lle mae cartref person agored i niwed yn cael ei gymryd drosodd gan droseddwyr.

Yr ymgyrch

Mae ‘Sophie’s Story’ yn ddilyniant i’r ffilm gyntaf i’r elusen ei chomisiynu, ac mae hi’n canolbwyntio ar Sophie sy’n cael ei meithrin ar gyfer cymryd rhan mewn troseddau, ei hecsbloetio’n rhywiol a’i bygwth gan aelod o gang cyffuriau cyfundrefnol.

Yn aml, mae pobol ifanc yn cael eu recriwtio gan gangiau troseddol er mwyn talu dyledion cyffuriau, neu yn gyfnewid am arian parod, alcohol, esgidiau newydd, beics, neu’n fwy diweddar, e-scooters.

Bydd yr ymgyrch genedlaethol bedair wythnos yn amlygu sut mae gangiau cyfundrefnol yn targedu pobol ifanc er mwyn dod o hyd i’w gwendidau.

Maen nhw’n cyfleu’r ddelfryd iddyn nhw cyn profi eu teyrngarwch, yn aml drwy ofn am gymwynasau a chyfleu teimlad eu bod nhw’n eu hamddiffyn.

Gall hyn arwain at gael eu hecsbloetio drwy gael eu caethiwo mewn ymrwymiad i dalu dyledion, masnachu, cael eu cadw rhag eu teulu a’u ffrindiau, a chamdriniaeth gorfforol, seicolegol, a rhywiol.

“Newid tactegau”

Dywedodd Hayley Fry, Rheolwr Cenedlaethol Cymru gyda Crimestoppers: “Mae gangiau troseddol yn newid eu tactegau er mwyn gweithredu a chaethiwo pobol ifanc yn gyson.

“Dw i’n arbennig o bryderus ynghylch nifer y merched ifanc sy’n cael eu targedu yng Nghymru a dyna pam bod yr ymgyrch hwn ac ein ffilm newydd, ‘Sophie’s Story’, mor berthnasol.

“Gobeithio y bydd y ffilm yn cael ei rhannu’n eang gan bartneriaid ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd cymaint o bobol ifanc â phosib, a thynnu eu sylw at y peryglon mewn dod ynghlwm [mewn gweithgarwch gangiau troseddol].

“Rydyn ni’n gofyn i bobol barhau’n wyliadwrus o arwyddion cael eu meithrin at bwrpasau troseddol a’r tri cham sef targedu, profi, a chaethiwo.

“Rydyn ni hefyd yn apelio ar bawb i helpu i amddiffyn aelodau o’n cymunedau sy’n agored i niwed rhag gweithgarwch llinellau cyffuriau drwy ddweud yr hyn wyddoch chi wrthym ni’n ddienw.”

Mae posib gwylio’r ffilm fer Sophie’s Story ar wefan Fearless.org.