Mae dynes 23 oed wedi ymddangos mewn llys wedi ei chyhuddo o ladd plentyn ifanc mewn gwrthdrawiad yn Llanelli.

Mae Lucy Dyer yn wynebu cyhuddiadau o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol yn dilyn y gwrthdrawiad yng nghroesffordd Heol Goffa’r dref nos Wener.

Manylion

Roedd Miss Dyer yn crynu ac yn crio yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli, ac fe siaradodd ond i gadarnhau ei manylion personol.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa nes y gwrandawiad nesaf yn Llys Y Goron Abertawe ar Dachwedd 12.