Mae Popeth Cymraeg, y corff dysgu Cymraeg i Oedolion, yn galw am fwy o diwtoriaid i ateb y galw.

Daw hyn wedi i’r corff brofi cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy’n dysgu Cymraeg eleni.

Ers dechrau’r cyfnod clo nôl ym Mis Mawrth 2020 mae Popeth Cymraeg wedi bod yn dysgu ei holl ddosbarthiadau ar-lein trwy ddefnyddio Zoom.

Yn ôl Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, sydd a swyddfeydd yn nhref Dinbych, mae’r niferoedd cyffredinol wedi codi tua 45%, tra bod nifer y dechreuwyr wedi codi 50%.

“Dyma’r twf mwyaf gan unrhyw gorff dysgu Cymraeg i Oedolion yng Nghymru eleni,” meddai mewn datganiad.

Fodd bynnag, mae’r twf hwn wedi achosi problem, sef fod holl diwtoriaid Popeth Cymraeg wedi’u clustnodi ar gyfer y cyrsiau sydd eisoes yn rhedeg.

O ganlyniad, mae angen tiwtoriaid newydd i gymryd cyrsiau newydd ym mis Ionawr.

“Dysgu’n ddigidol”

“Gan fod y gwersi i gyd yn digwydd ar-lein eleni rydym yn chwilio am diwtoriaid newydd fyddai’n hoffi cymryd dosbarth neu ddau trwy Zoom, yn enwedig gyda’r nos,” meddai Ioan Talfryn.

“Byddwn yn cynnig hyfforddiant i diwtoriaid ar sut i ddysgu’n ddigidol.

“Mae hyn yn golygu nad oes raid i diwtor o angenrheidrwydd fyw o fewn tafliad carreg i’n canolfannau dysgu yn Sir Ddinbych.

“Mae un o’n tiwtoriaid hyd yn oed yn byw yn Sweden ac yn cymryd dosbarth Cymraeg sy’n cynnwys pobol o sawl ran o’r byd yn ogystal â Chymru.”